Holiadur i Artistiaid – Hwb Treftadaeth a Chelf Dyffryn Nantlle

Isio barn artistiaid!

gan Llio Elenid

Gyda gwaith ar ddatblygu Hwb Treftadaeth a Chelf i Ddyffryn Nantlle yn prysur symud yn ei flaen, ’da ni yma yn Yr Orsaf rŵan eisiau barn artistiaid am y gofod fydd yn cael ei ddatblygu yno. Drwy’r holiadur yma rydym yn dymuno casglu gwybodaeth am yr angen, y gofynion a’r cyfyngiadau sydd gan artistiaid heddiw. Y gobaith yw bydd yr Hwb yn ateb y gofynion hynny drwy gynnig gofodau i artistiaid lleol am brisiau teg a rhesymol a rhoi lle iddynt arddangos eu gwaith; y bydd yn gaffaeliad i artistiad yr ardal, ac yn denu celfyddyd ac artistiaid i Ddyffryn Nantlle.

Ewch ar y ddolen ganlynol er mwyn ateb yr holiadur – Holiadur Artistiaid – Hwb Treftadaeth a Chelf Dyffryn Nantlle

Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com, neu groeso i chi biciad draw i’r Orsaf ar Heol y Dŵr ym Mhenygroes.

Diolch yn fawr!