Datblygu hwb cymunedol – Neuadd Bentref Y Groeslon.

Diweddariad Neuadd Y Groeslon, Gwynedd

gan Alun Wyn Jones

Adeiladwyd yr adeilad cyfredol ym 1953 i ddarparu adnodd cymunedol fyddai’n diwallu anghenion y cyfnod. Mae’r neuadd yn cael defnydd helaeth ac amrywiol ac mae’n amserol i geisio datblygu’r adeilad i adlewyrchu rhai o anghenion y dyddiau hyn.

Y weledigaeth yw i ddatblygu ystafell newydd nid yn unig i ddiwallu diffyg capasiti ond hefyd i ddarparu adnodd penodol bwysig, sef Hwb cymunedol, fydd yn ymestyn amrediad y defnydd cyfredol o’r neuadd.  Bydd yr Hwb ar gael ar unrhyw adeg o’r dydd (er fod eraill yn yr adeilad) nid yn unig i drefniadau gan gyrff a chymdeithasau ond hefyd ar gyfer trigolion a grwpiau i gael canolfan hygyrch i gynnal eu cyfarfodydd neu trafodaethau (yn ffurfiol neu anffurfiol).  Bwriedir i’r Hwb fod yn adnodd a all gynnal digwyddiadau buddiol ac ychwanegol i’r pentref.

Gyda grant oddi wrth Cronfa Grymuso Gwynedd a ddaeth drwy gais i Menter Môn, mae Pwyllgor Rheoli’r Neuadd wedi rhoi ar droed prosiect i ymestyn adain o’r adeilad sydd yn cynnwys y gegin.  Mae’r prosiect am gyflawni holl gydrannau’r gwaith cyn-gontract sef troi manyleb Pwyllgor Rheoli’r Neuadd i gynlluniau pensaerniol fyddai’n sail i broses Tendro ffurfiol a hynny ar gefn caniatad cynllunio a ddaeth i law yn ddiweddar. Mae Cwmni Wakemans o Gaernarfon yn gweithredu fel ymgynghorwyr adeiladwaith i ymdrin â’r prosiect sydd gyda dyddiad cwblhau tebygol yn y misoedd nesaf.

Bydd y gwaith cyn-gytundeb yn caniatau i’r Pwyllgor Rheoli gamu ymlaen wedyn i geisio cyflawni’r gwaith ôl-gytundeb a hynny’n dilyn ymdrechion i sicrhau pecyn o grantiau.

Dweud eich dweud