Awn am awyr iach

Tair Melin, Tren a beic

Ceridwen
gan Ceridwen
IMG_20210515_182610
IMG_20231107_130907-2

Ar ol yr holl fins peis a gwylio llwyth o hen ffilmiau mae angen mynd am awyr iach, felly awn ar y beic am dro ar hyd lonydd distaw (gan amlaf) plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Gwnewch yn siwr wrth feicio (a cherdded) eich bod yn gwisgo dillad lliwgar neu adweithiol fel eich bod yn weladwy bob amser.
Cychwyn heibio Capel Brynrhodyn ger Y Dolydd ac fyny at hen safle Ffatri Tryfan, neu Melin Wlan Tryfan yn swyddogol, a swn hyfryd Afon Llifon,  a oedd yn gweithio nifer o felinoedd yn yr ardal, i’w glywed. Mae son bod Melin yma yn 1815 gyda nifer o bobl yn cael eu cyflogi, yn ol y Cofnodion Plwyf. Mae carthen a wnaed yn y Felin i’w gweld yn Storiel Bangor. Rydym yn mynd ar y lon sydd yn rhedeg o flaen Llys y Delyn, hen dy Rheolwr y Ffatri; newidwyd enw y ty gan fod gwraig un perchenog yn Delynores.
Mae’r lon gul a gwastad yn mynd am Rhos Isaf, heibio giatiau Y Gilwern a Wern Olau. Mae’n ffordd goediog braf ond cadwch glust allan am ambell i gar. Cadwch i’r chwith yn y gyffordd (mae yn bosibl ymuno yma o Garmel a Capel Bryn). Lawr yr allt a ni am y pentref bach o lle cariwyd bwthyn Llainfadyn yn 1962 , fesul carreg i Sain Ffagan. Mae’r bwthyn yn dyddio o 1735. Awn allan o’r pentref at i lawr, y ffordd yn agor allan am ychydig. Mae ffermdy hanesyddol Gadlys ar y chwith a wedyn Dolellog. Dros y ffordd, os ydych yn lwcus, ac wedi gwiro yr amseroedd, fe allech weld tren bach Rheilffordd Eryri yn pasio am Waenfawr, drwy gaeau Bodaden. Cawn fynd dros bont y Rheilffordd ac rydym wedi cyrraedd yr hen lon bost yn Dinas. Croesi yn ofalus (mae croesfan i’r chwith) ac awn i’r dde ac wedyn i’r chwith lawr am Stesion Dinas. Arferai hon fod yn arosfan ar y lein o Gaernarfon i Afonwen, ac roedd lein gul Bryngwyn yn cario llechi yma o chwareli cyfagos i’w cludo ymlaen i’r Cei yng Nghaernarfon. Os dymunwch feicio am y dref, mae’n bosibl ymuno a Lon Eifion yma, mae’n rhedeg wrth ochr y Rheilffordd.

Awn ymlaen heibio y tai yn Dinas, mae’r lon yn agor allan ac rydym uwchben y Ffordd Osgoi newydd. Mae’n werth aros i gael seibiant ac edrych ar y llu ceir yn rhuthro oddi tanom. Cawn fwynhau golygfeydd am y mynyddoedd tu cefn a’r mor o’n blaenau. Awn lawr yr allt goediog hyd nes cyrraedd Canolfan Felinwnda, troi i’r chwith am lon fach gul ac at bont yr afon Rhyd. Yma ar yr afon mae safle hen Felin Wnda, Melin Yd yn dyddio yn ol i 1663 ac yn gwasanaethu trigolion y ddau blwyf, yn ogystal a plwyf Llanllyfni, yn ol hen lyfr cownt sydd yn Archifdy  Prifysgol Bangor. Ar fap y Degwm mae cae o’r enw Cae Cefn Felin gerllaw; roedd y Felin ar waith hyd 1918, ac ar dir ystad Pengwern ar un adeg. Awn dros yr afon ac mae tynfa i fyny, rhaid gweithio y coesau, nes cyrraedd Rhedynog. Rydym yn pasio safle Dinas y Prif, sef hen loc Rufeinig, efo olion cytiau o Oes yr Haearn. Yn Rhedynog, troi i’r dde, i gyfeiriad Llandwrog efo’r Eifls o’n blaenau. Mae yn lon wastad braf yn pasio ffermydd a thai cyn dod i gyffordd am Gapel y Bwlan.

Troi i’r chwith ac mae’r ffordd yn eithaf cul, rhaid gwrando allan am geir (a loriau) yn dod i’ch cyfarfod. Cyrraedd Rhyd sef clwstwr o dai, ac wedyn y ffordd fawr. Rwyf yn hoff o’r hen enw Rhyd Ysgyfarnog, lle roedd Tafarn yn arfer bod ar fin y ffordd fawr a oedd yn rhedeg drwy dir Glynllifon (adeg y Goets Fawr).
Rydym nawr ar y ffordd fawr am Bwllheli a rhaid bod yn or-ofalus wrth groesi. Awn i’r chwith am Bethesda bach; mae pafin llydan yn rhedeg efo’r ffordd fawr i feicwyr a cherddwyr. Cadewch olwg allan am ddarnau o goed wedi syrthio o’ch blaen, neu ddefnyddiwyr eraill ar y llwybr. Yn Bethesda bach troi fyny yn y groesffordd ar lon gul efo tipyn o dynfa eto, ac mae braidd yn anwastad dan draed efo gwreiddiau coed ac ati. Ymhen dipyn gwelwn adeilad smart Melin Llwyn Gwalch yn y pant. Mae son am y Felin nol yn 1717 fel Melin Flawd, efo llyn wrth ymyl yn croni dwr o afon Llifon. Roedd enwau hyfryd ar y caeau o gwmpas: Weirglodd Felin, Cae’r Llyn a Pwll yr Olwyn. Sylwch ar y ffenestri bychain o dan do yr adeilad ac mae un o’r cerrig malu yd i’w weld ar ei flaen. Tu ol i’r Felin mae modd ymuno a Lon Eifion, neu fel arall mynd o dan y ffordd osgoi, heibio afon Llifon, o dan yr hen bont Reilffordd, ac allan yn y lon bost ger Ffermdy Llwyn Gwalch gyda Brynrhodyn i’r chwith.

Taith fach hawdd gyda digon o olygfeydd.     Blwyddyn newydd dda i chwi gyd.