Yn ddiweddar agorwyd Tŷ Gwyrddfai, prosiect datgarboneiddio uchelgeisiol ym Mhenygroes ar y cyd rhwng Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.
Mae’r hwb datgarboneiddio yn cael ei ddisgrifio gan Adra fel un sy’n “torri tir newydd” yng ngogledd orllewin Cymru, ac yn ddiweddar fe’i hagorwyd yn swyddogol gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru.
Bydd pobol leol yn cofio’r adeilad fel hen ffatri Northwood, ond mae wedi ei thrawsnewid dros y ddwy flynedd ddiwethaf i fod yn gyfleuster arloesol a fydd yn sicrhau bod gogledd orllewin Cymru ar flaen y gad o ran yr agenda datgarboneiddio, ac yn gweithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod (retrofit) cartrefi.
Yn rhan o Dŷ Gwyrddfai mae cyfleuster ymchwil a datblygu arloesol ar gyfer treialu technoleg a deunyddiau datgarboneiddio newydd. Prifysgol Bangor sy’n arwain ar y prosiect hwn ac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Mae Tŷ Gwyrddfai yn gartref i brif swyddfa Trwsio, contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff. Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a’i gontractwyr.
Ymhellach, mae Busnes@LlandrilloMenai, ochr masnachol Grŵp Llandrillo Menai yn rhedeg pods hyfforddi ar y safle er mwyn cynnig hyfforddiant mewn sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu, yn cynnwys mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol a gosod a thrwsio paneli solar.
Yn ôl Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd lleol a oedd yn bresennol yn yr agoriad:
“Roedd yn ergyd drom i Ddyffryn Nantlle pan gaewyd hen ffatri Northwood, ond mae’n braf gweld cynllun arloesol Tŷ Gwyrddfai yn dod â bywyd newydd i’r hen ffatri papur tŷ bach.
“Prin nad oes dim yn fwy sylfaenol na’r hawl i do uwch ein pennau, a thŷ diogel i fyw ynddo fo. Ond yn fwy a hynny, mae angen i’n cartrefi fod yn gartrefi sy’n ffit i’r dyfodol, yn ynni effeithlon ac yn garedig wrth yr amgylchedd.
“Mae’r stoc dai bresennol yn bell o’r pwynt hwnnw, ond yr hyn sydd ei angen i gyrraedd at hynny ydi gweithlu gyda’r sgiliau cywir.
“Mae hyfforddiant ac arloesedd yn greiddiol i Dŷ Gwyrddfai, ac mae’r ddwy egwyddor honno’n greiddiol i ddatrys yr argyfwng tai ac i’r weledigaeth o ddatgarboneiddio hefyd.
“Mae Tŷ Gwyrddfai yn cynnig model ardderchog o gydweithio rhwng partneriaid a dyma fodel i’w ledaenu ar draws Cymru a thu hwnt fel bod gennym rwydwaith o hybiau tebyg i gyd yn cyfrannu at greu cartrefi newydd a chartrefi clyd sy’n rhad i’w rhedeg ac yn ffit i’r dyfodol.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ynghlwm â’r prosiect.”