Tyfu blodau a llysiau

Mae manteision di-rif

angharad tomos
gan angharad tomos

Mae treulio amser mewn gardd yn lles i’r corff a’r enaid, ac mae’n bwysicach nag erioed yn ein dyddiau prysur ni. Daeth cyfleoedd i bobl Dyffryn Nantlle fod yn rhan o gynllun garddio cymunedol efo cychwyn Yr Ardd Wyllt ger y Co-op. Ers tua blwyddyn, mae’r Orsaf wedi bod yn weithgar ar lain arall o dir ym mhentref Penygroes, sef Gardd Eden, tu ôl i Gapel Calfaria. Am flynyddoedd, roedd y darn hwn wedi bod yn segur, ond bellach mae yn for o liw, diolch i’r gwirfoddolwyr.

Rhoddwyd nifer o welau yn eu lle, ac mae llysiau a blodau gwyllt yn tyfu. Mae croeso i unrhyw un fanteisio ar y ffrwythau a’r llysiau. Weithiau byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer risetiau Llond Bol.
Dwy awr yw’r sesiynau garddio bob bore Mercher rhwng 10 a 12, ond yn aml, mae pobl yn galw draw i wneud hanner awr os yw hynny yn ffitio i’w diwrnod. Mae rhai yn gwybod dipyn go lew, ac yn dod â phlanhigion neu hadau dros ben efo nhw, eraill yn ddechreuwyr pur. Gwell gan rai dorri gwair, eraill yn fodlon chwynnu, eraill eisiau tasg ysgafnach.

Dyma’r tatws godwyd un bore, a rhoddwyd cynnig ar wneud sudd afalau ond bydd angen dipyn mwy o ddyfalbarhad efo hwn! Diben arall y garddio yw rhoi cyfle i bobl ganolbwyntio ar fyd natur a rhannu profiad neu straeon. Mae’n ffordd wych o leddfu unigrwydd hefyd, a defod holl bwysig yw cael y baned a bisged a’r sgwrs ar ddiwedd y sesiwn.

Mae dyddiad pwysig yng nghalendar y dyffryn bob blwyddyn sef y Sioe Flodau a Sioe Hydref, ac rydym yn ffodus fod y digwyddiadau hyn yn parhau, diolch i griw dygn. Dewch draw i’r Neuadd Goffa ar Sadwrn, Medi 9, rhwng 2pm a 4.30. Mae’n wledd i’r llygaid, ac mae cyfle i bawb gystadlu. Am £1.50, cewch fynediad a phaned a chacen. 50c yw’r pris i blant.

Dyddiad y Sioe Hydref yw Sadwrn olaf Hydref, y 28, gyda’r un amseroedd. Cofiwch y dyddiad a dewch draw i gefnogi. Boed yr hyn sy’n cael ei arddangos yn hwb i’r gweddill ohonom droi ati a phrofi manteision bod yn yr ardd.