Rhian yn troi ei llaw at gyfarwyddo

Un o ferched Dyffryn Nantlle sy’n cyfarwyddo Croendenau

Ar Goedd
gan Ar Goedd
DSC08900

Mae Rhian Blythe yn adnabyddus inni gyd fel actores wrth gwrs, ond hi yw cyfarwyddwr drama ddiweddaraf Frân Wen.

Dyma’r tro cyntaf i’r artist o Ddyffryn Nantlle gyfarwyddo cynhyrchiad proffesiynol, ac mae llwyfaniad o’r ddrama’n ymweld â’r ardal wythnos nesa’.

Cipiodd Rhian wobr yr “Actores Orau” yn BAFTA Cymru 2014 a Gŵyl Caeredin yn 2008. Ond daeth yn bryd i Rhian droi ei llaw at gyfarwyddo.

Mae Croendenau, drama gan Mared Llywelyn yn cael ei disgrifio fel dramedi, drama sy’n mynd i’r afael â’i thestun drwy gyflwyno elfennau comig. Mae Croendenau yn cyffwrdd ar themâu fel ail garterfi a’r argyfwng iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru, ac un o ferched o ardal Caernarfon fydd yn serennu ynddi.

Bydd Croendena yn ymweld â Galeri, Caernarfon 20-22 Chwef