Nantlle Ni

Arddangosfa yn Llanberis

angharad tomos
gan angharad tomos

Mae hi bob tro yn bleser clywed y diweddaraf am Ysgol Bro Lleu. Os ydych yng nghyffiniau Llanberis, galwch heibio i’r Amgueddfa Lechi i weld gwaith plant yr ysgol. Maent wedi bod yn brysur yn creu – yn llafar, yn ddigidol ac ar bapur – i gyfleu Dyffryn Nantlle ddoe a heddiw.

Rydym yn tueddu i gysylltu amgueddfa efo ‘ers talwm’ ond yn y ty pen yn y rhes o dai, gallwch weld a chlywed lleisiau pobl ifanc. Mae’r map anferth o’r fro yn drawiadol yn dangos be sy’n bwysig i blant heddiw. A dyna gewch chi ar y fideo y maent wedi ei wneud hefyd. Maent yn son am yr hyn y maent wedi ei ddysgu, ond yna – yn eu geiriau eu hunain – maent yn dweud beth mae nhw yn ei hoffi am y dyffryn. Yn wir, mae’n sesiwn i godi eich calon. Es oddi yno yn teimlo yn ffodus iawn mod i’n byw yn Nyffryn Nantlle, a bod plant y dyffryn yn mynegi eu hunain mor dda.

Marchnad Lleu

10:00, 18 Mai (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)