Marchnad Lleu

Sefydlu Marchnad yn Nyffryn Nantlle

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Roedd Marchnad gynnyrch lwyddiannus yn y Ganolfan yn Nhalysarn rai blynyddoedd yn ol, yn cael ei redeg a’i reoli gan Trigonos, Nantlle. Mae rhai yn dal i ddatgan pa mor dda oedd y Farchnad.

Ychydig cyn y ‘clo mawr’ roedd chydig o ffrindiau yn trafod eu pryderon am y gymuned leol, yr amgylchedd ac effeithiau newid hinsawdd a pa mor wych fyddai ail-sefydlu’r Farchnad gan roi gofod i dyfwyr lleol (mawr, bach, gardd gefn), cynhyrchwyr a chrefftwyr gael dod at eu gilydd i werthu eu nwyddau i bobol leol. Byddai hyn yn annog i’r gymuned fod yn fwy gwydn i wynebu prisiau bwyd byd eang sy’n deillio o newid hinsawdd. Bu’r grwp yn ymchwilio marchnadoedd eraill, ac roedd Marchnad Ogwen ym Methesda yn gymorth mawr gan rannu eu dogfennau ac esbonio logisteg o sefydlu a rhedeg eu marchnad.

Daeth y ‘cyfnod clo’ a rhoddwyd y syniad i un ochr dros dro. Daeth y grwp at eu gilydd eto pan ffurfiwyd Caffi Trawsnewid – trwy GwyrddNi a’r Cynulliad Hinsawdd, a dyma feddwl am ffyrdd i helpu’r gymuned i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Penderfynwyd ail gychwyn y syniad o farchnad gynnyrch a dyma ichi – Marchnad Lleu.

Nod: I drefnu hwb marchnad misol yn Nyffryn Nantlle i dyfwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr  werthu eu cynnyrch i bobol leol ac ymwelwyr i’r ardal.

Amcanion:

  1. I ddarparu lle i dyfwyr masnachol lleol werthu a marchnata eu cynnyrch.
  2. I ddarparu lle i wneuthurwyr lleol e.e crefftwyr, ffeltwyr, gwehyddion, gweuwyr, gwneuthurwyr sebon ayyb werthu, hysbysebu eu nwyddau ac arddangos eu sgiliau.
  3. I baraoti lle i gynhyrchwyr bwyd lleol e.e siytni, pasteiod di-glwten, bwyddydd figan, selsig gael gwerthu a marchnata eu cynnyrch.
  4. Fod lleol yn fforddiadwy – gofynnwn i fasnachwyr ddarparu cynnyrch sy’n apelio i bawb.
  5. I roi gofod i bobol ddod at eu gilydd am sgwrs, cyfarfod wynebau newydd a chael lluniaeth.
  6. I baratoi lle i fudiadau cymunedol ac elusennau lleol hysbysebu eu gweithgareddau.
  7. I baratoi lle i gael cyngor e.e argyfwng costau byw, costau ynni ayyb.
  8. Sefydlu gweithdai, sgyrsiau ar addasiadau hinsawdd a materion lleol.

Wel erbyn hyn mae’r gwaith o sefydlu Marchnad Lleu yn mynd ar garlam!  Mae pwyllgor wedi ei sefydlu, swyddogion wedi eu hethol, cyfansoddiad wedi ei fabwysiadu a chyfrif banc wedi cael ei agor. Creuwyd Gynllun Busnes hefyd. Dyma’r Swyddogion ichi: Cadeirydd: Nicole Le Maire. Ysgrifennydd: Anwen Harman.  Trysorydd: Michelle Atkinson.

Mae ‘Pecyn i Stondinwyr’ wedi ‘i greu ac os hoffech gopi electronig cysylltwch a Michelle ar ebost: marchnadlleu@yahoo.com neu ffoniwch 07748697325 am gopi caled. Mae basdata o fusnesau, tyfwyr a chrefftwyr lleol yn cael ei sefydlu ac os hoffech fod yn ran o’r farchnad PLIS cysylltwch ȧ Michelle. Mae’n gyfle gwych i werthu’n lleol i drigolion y Dyffryn.

Oes na rai o ddarllenwyr Lleu yn aelodau o gymdeithas neu elusen yn y Dyffryn? Bwriadir rhoi cyfle i un o rhain gael ‘Stondin y Mis’ am ddim. Cysylltwch hefo: Anwen ar 07748697325 neu ebostio anwenharman@btinternet.com i roi eich enw ar y rhestr – cyfle ichwi godi ymwybyddiaeth o’ch prosiect; codi arian i’ch elusen ayyb.

Yn olaf, os hoffai un ohonoch gael gofod i arddangos crefft neu sgil; rhoi sgwrs a rhannu gwybodaeth, rhowch ganiad neu ebost i Anwen.