
Persona yn BAFTA Cymru

Llun o Elin Gwyn ac Alys Letton-Jones gan Hoda Davaine / BAFTA

Llun gan Kristina Banholzer/ S4C
Cynhaliwyd gwobrau BAFTA Cymru yng Nghasnewydd nos Sul, Hydref 15. Yn y categori ‘Drama Deledu Orau’ roedd tri cynhyrchiad wedi eu henwebu; Casualty, The Lazarus Project a Persona.
Ffilmiwyd Persona mewn nifer o leoliadau yn yr ardal, ond yn bennaf, yn Cae Clyd ger Pontllyfni. Bydd nifer o’r cast yn wynebau cyfarwydd i drigolion yr ardal.
Ysgrifennwyd y gyfres gan Elin Gwyn, sy’n byw yn Rhosgadfan: ‘Roeddwn i eisiau adlewyrchu bywydau pobl ifanc yng ngogledd Cymru, yn enwedig mewn ardal ôl-ddiwydiannol fel hon. Roedd hi’n fraint cael enwebiad a mynd i gynrychioli’r cynhyrchiad yn y gwobrau. Cafon ni noson i’w chofio, er i ni beidio ennill.’
Mae Persona yn gyfres ddrama ar gyfer pobl ifanc. Pan mae Katie yn cyfarfod Anna, mae ei bywyd yn cael ei drawsnewid yn llwyr. Ond pa mor bell aiff hi er mwyn dal gafael ar eu cyfeillgarwch?
Mae Persona ar gael i’w wylio ar S4C Clic.