Lleisiau’r Dyffryn yn cael eu clywed yn glir

Pwt gan Nia Gruffydd, aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle

Casia Wiliam
gan Casia Wiliam
IMG_20230204_142329

Rhai o Aelodau Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle

Nôl ym mis Mehefin y llynedd, cofrestrais fel aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle, ac ymuno gyda dros hanner cant o bobl oedd eisiau gweithredu ar faterion argyfwng hinsawdd yn eu hardal leol.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Y Fron ac ers hynny, mae tri Cynulliad pellach wedi eu cynnal, ac rwyf innau wedi mwynhau dod i nabod pobl newydd a bod yn rhan o gynllun i ddatblygu syniadau o sut gall Dyffryn Nantlle ymateb yn lleol i newid hinsawdd.

Dros y pedwar Cynulliad gwahanol cawsom gyfle i feddwl, rhoi ein barn a dod i gytundeb, a chyfle hefyd i wrando ar nifer o gyflwynwyr yn siarad am brosiectau eraill sy’n weithredol yng Ngwynedd fel y cynllun ynni adnewyddol yn Nyffryn Ogwen, Ynni Ogwen.

Yng Nghynulliad 3 yn Neuadd Goffa Penygroes cyn y Nadolig, cawsom ein rhoi mewn grwpiau bach i ddatblygu syniadau, gyda phlant Ysgol Rhosgadfan yn ymweld i son am y pethau sy’n bwysig iddynt hwy yn eu hardal leol yn dilyn eu Cynulliad Ysgolion nhw. A dyna neges amlwg i ni beidio ag anghofio am ddymuniadau plant a’r genhedlaeth iau wrth feddwl am y dyfodol.

Roedd y syniadau a drafodwyd yn cwmpasu gwella’r stoc dai ac amodau cynllunio, cynllun i dyfu a rhannu bwyd, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Bydd rhai o’r syniadau hyn yn cael eu cynnwys mewn Cynllun Gweithredu ar ddiwedd y broses Gynulliadol, ac yn cael eu gwireddu wedyn gobeithio gyda chefnogaeth gan GwyrddNi, ein Partner lleol yma yn Nyffryn Nantlle sef Yr Orsaf, ac unrhyw un o’r gymuned sy’n awyddus i helpu.

Felly, os oes unrhyw un sy’n teimlo’n gryf dros ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac eisiau gwneud eu rhan a chefnogi’r cynllun gweithredu , yna mae modd arwyddo Addewid GwyrddNi yma er mwyn i’n lleisiau ni yn y Dyffryn gael eu clywed yn glir. Bydd y Cynllun yn barod yn fuan iawn a wedi i chi arwyddo’r Addewid bydd yn cael ei rannu gyda chi yn uniongyrchol dros ebost.

Nia Gruffydd, aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle.