Ffwng prin ym Mhenygroes

Cyfarfod yn Eglwys Crist i’w drafod

angharad tomos
gan angharad tomos

Mae’r ffwng welir yn y llun yn fath prin ofnadwy. Ym myd y ffwng, caiff ei ystyried mor brin a’r llewpard eira. Y newyddion mawr yw ei fod wedi ei ganfod yng ngardd Eglwys Crist, Penygroes, ac anaml iawn y ceir y cyfle i’w weld.

Petaech eisiau gwybod mwy am y maes arbennig o ddiddorol hwn, bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal am 7pm nos Iau, Mawrth 30, yn Eglwys Crist, lle bydd yr Athro Gareth Griffith, arbenigwr yn y maes yn taflu goleuni arno. Croeso i unrhyw un ddod.