Eisteddfod a Gŵyl Ddrama Y Groeslon

Penwythnos yma – 21-22 Ebrill!

gan Llio Elenid
00011
gwyl-ddrama-23-2-1

Bydd hi’n benwythnos prysur i Neuadd y Groeslon penwythnos yma wrth i’r Eisteddfod a’r Ŵyl Ddrama gael eu cynnal yn y pentref – y tro cynta nôl ers 2019!

Yr Ŵyl Ddrama i ddechrau ar nos Wener 21ain o Ebrill am 7yh – efo Bryn Fôn yn beirniadu. Mynediad yn £3 i oedolion, a £1.50 i blant, ac mae’n bosib talu ar y drws.

Yna’r Eisteddfod bnawn dydd Sadwrn 22ain o Ebrill i gychwyn am 1yp. Dyma’r rhaglen gyflawn i chi isod i chi gael blas ar be fydd ar y llwyfan! Mynediad yn £4 i oedolion, a phlant am ddim.

Gobeithio y welwn ni chi yno!