Mae Rhian Davies o Ddyffryn Nantlle yn gweithio yn Antur Waunfawr, ac mae’r fenter gymdeithasol wedi lansio ymgyrch am fwy o weithwyr cefnogol.
Sefydlwyd y fenter yn 1984 gan R. Gwynn Davies yn Waunfawr, ac maent yn cynnig telerau rhagorol i’r rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi unigolion ag anableddau dysgu.
Fel rhan o’r ymgyrch recriwtio, mae aelodau staff wedi rhannu eu profiadau o weithio i Antur Waunfawr. Mae Rhian Davies o Ddyffryn Nantlle yn un o’r rheini:
“Flynyddoedd yn ôl, ro’n i ar braidd o loose end, ac roedd gan ffrind i mi gysylltiadau yn Antur Waunfawr.
“Doedd gen i ddim y profiad yn y maes, ond dyma fi’n meddwl, ‘Waeth imi roi her i mi fy hun.’
“A dwi wedi mwynhau pob shifft ers hynny.
“Mae’n swydd wobrwyol iawn. Does ’na ddim byd yn teimlo’n well na gwybod eich bod chi wedi gwneud diwrnod rhywun. Eich bod chi wedi bod yno i rywun pan oeddan nhw isio bwrw bol.
“Dydi o ddim yn teimlo fel gwaith.”
Sut unigolyn mae Rhian yn teimlo sydd ei angen i fod yn Weithiwr Cefnogol?
“Mae angen i chi fod yn berson empathetig, caredig ac amyneddgar ar gyfer y swydd. Mae angen i chi gael rhywbeth y tu mewn i chi sydd eisiau gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.
“Mae’n gymaint mwy na gwaith. ’Da ni’n ffrindiau.
“Os oes unrhyw un yn ei hystyried fel gyrfa, go for it! Mae wedi bod yn gyfle gwerthfawr i mi’n bersonol.”
Ar hyn o bryd, mae Antur Waunfawr yn dymuno recriwtio mwy o weithwyr cefnogol.
Dylai’r sawl sydd â diddordeb gysylltu â swyddi@anturwaunfawr.cymru neu 01286 650721. Mae’r hysbyseb swydd i’w weld yma, a’r Pecyn Recriwtio yma.