Diwrnod codi ymwybyddiaeth dementia

Mae Cyngor Gwynedd a Dementia Actif Gwynedd gyda diwrnod i bawb i ddysgu mwy am ddementia

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Diwrnod-Dementia-Day-20062023
Diwrnod-Dementia-Day-20062023-1

Pwrpas y diwrnod yw gwahodd pobl i ddod draw i ddarganfod sut gallwn ni helpu i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn ein cymunedau – mae hynny’n cynnwys y person sydd â diagnosis ac aelodau o’r teulu. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi’i effeithio gan ddementia, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod mwy. Mae’r diwrnod yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau rhyngweithiol ac mae’n rhad ac am ddim.

 

The purpose of the day is to invite people to come along to find out how we can help support people affected by dementia in our communties – that includes the person with a diagnosis and family members. Most people  these days know some one who has been affected by dementia, so this is a great opportunity to find out more. The day offers a variety of interactive events and is free of charge.  

Rhaglen

10:00-16:00 – Arddangosfa Ffotograffiaeth – Perthnasoedd

10:30-11:30 – Sesiwn Ffrindiau Dementia a Phrofiad VR

12:00-13:00 – Gweithdy Dawns i Bawb – Cymru Ni

14:00-16:00 – Ffilm “The World Turned Upside Down”

 

I archebu lle yn unrhyw un neu bob un o’r gweithgareddau cliciwch ar y ddolen:-

www.eventbrite.com/e/diwrnod-dementia-codi-ymwybyddiaeth-dementia-day-raising-awareness-tickets-642883320317

 

Neu os byddai’n well gan bobl archebu dros y ffôn neu e-bost – mae croeso iddynt gysylltu â mi:-

07768 9898095 emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru

Marchnad Lleu

10:00, 18 Mai (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)