Dafydd Iwan a’i gân

Caneuon y 60au

angharad tomos
gan angharad tomos

Dafydd Iwan oedd yn diddanu’r Gymdeithas Undebol yng nghapel Soar, Penygroes ar nos Fawrth, Ionawr 17. Ei destun oedd Caneuon y 60au. Difyr oedd clywed am ei ymdrechion i feistrioli sawl offeryn cerdd, ond y gitar aeth a hi yn y diwedd. Cyfieithu caneuon a wnai ar y cychwyn, e.e. ‘Mae’n Wlad i Mi’ yn seiliedig ar gan Woody Guthrie, ond yna aeth ati i gyfansoddi caneuon o’i brofiadau personol – yr unigrwydd a deimlodd wedi symud i Gaerdydd, a chaneuon serch. Canodd ‘Rwy’n Gweld y Dydd’, sef y gan a ganodd y noson cyn buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin ym 1966. Gyda bwrlwm Cymdeithas yr Iaith, daeth caneuon megis Peintio’r Byd yn Wyrdd a Mistar Thomas Os Gwelwch yn Dda, a soniodd am ei gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol chwedlonol, George Thomas. Peth peryglus iawn yn ei feddwl o oedd arwyddion dwyieithog, ac mae’n galonogol gweld sut mae pethau wedi symud ymlaen. Pethau da i wneud sbort ohonynt yw Teulu Brenhinol Lloegr, neu ‘light relief’ fel y disgrifiodd hwy. Canodd y bythol wyrdd ‘Pam Fod Eira’n Wyn?’

Er mai y 60au oedd y thema, cawsom bwyntiau cyfoes, megis perygl y mesur a drafodir yn  Senedd Prydain am dorri hawliau protestwyr. Mor ddiweddar a’r Sadwrn blaenorol, roedd yn annerch rali Cymdeithas yr Iaith, ac yn talu teyrnged i ddycnwch Ffred Ffransis. Bu’n flwyddyn anhygoel i Dafydd Iwan, a diolchodd am y fraint o gael teithio Cymru gan fynd i ysgolion a chymdeithasau. Arwyddion o obaith a welai ef, yn yr alwad am addysg Gymraeg, a phobl eisiau dysgu’r iaith. Edrych ymlaen mewn gobaith a wnai, nid hiraethu am oes aur. Braint i Benygroes oedd cael ei gwmni.

Mewn pythefnos, cwis hwyliog fydd yna yng ngofal Gwilym Roberts yng Nghapel Soar eto am 7pm. Ar Chwefror 14, yng nghapel y Groes fydd y cyfarfod, yng nghwmni Bob Morris. Bydd cyfarfod olaf y tymor yng Nghapel y Groes ar Chwefror 28. Croeso i bawb.