Clwb Clebran

Cyfle i ymarfer siarad Cymraeg

angharad tomos
gan angharad tomos

I ateb galw mawr, mae’r Orsaf wedi cychwyn Clwb Clebran am awr bob bore Gwener. Er fod dosbarth teirawr bob bore Llun, mae sawl dysgwr wedi holi am gyfle i sgwrsio yn Gymraeg. Ar Ionawr 27, dyma agor y drysau, a mentrodd deg o bobl a phedwar gwirfoddolwr. Mawr oedd y brwdfrydedd, rhai efo ambell air, eraill bron yn rhugl.

I wirfoddoli, cwbl ydych chi ei angen yw’r gallu i siarad Cymraeg. Prin yw’r cyfle gaiff y dysgwyr i siarad Cymraeg heb i’r sgwrs droi yn Saesneg. Dyma’r ffordd orau i ddysgwyr feistroli’r Gymraeg. Maent yn hynod ddiolchgar, ac mae sgwrs fer yn gallu gwneud cymaint i’w hyder. Dim ots os na allwch ddod yn gyson, neu yn methu fforddio awr. Galwch heibio – mae’r dysgwyr angen cymaint o amrywiaeth a phosibl.

1 sylw

Nora Jones
Nora Jones

Gobeithiaf fedru dod draw un o’r boreau Gwener ‘ma. Dim byd gwell nac annog siaradwyr Cymraeg newydd

Mae’r sylwadau wedi cau.