Dewch ar y bws

Gwasanaeth Bws Newydd C5 a C4

Ceridwen
gan Ceridwen

sdr

dav
Screenshot_20230705-082019-2
IMG_20200503_133157

Mae Dyffryn Nantlle wedi cael gwasanaethau bws newydd ers y 1af o Orffennaf ac mae’n wych cael eu defnyddio. Bysus rheolaidd yn rhedeg o Nebo a Llanllyfni,  yr C5;  Nantlle a Talysarn, yr C4;  i Gaernarfon ac yn ol.   Mae’r C5 yn troi fyny yn Y Groeslon am Carmel,  ac mae’n wasanaeth mwy rheolaidd na’r un blaenorol. Ac mae pobl Llanllyfni, fel dwin deall , yn falch o gael gwasanaeth bws drwy’r pentref unwaith eto.   Diolch i Dilwyn’s Coaches am y gwasanaethau newydd ac i Bysus Gwynfor am y bws 1F cyn hynny.

Mae amserlen llawn y gwasanaethau bysus i gyd ar Wefan Cyngor Gwynedd, ac mae posteri ar yr arosfannau.

Os nad ydych am gymeryd y “scenic route” efo’r C5 i dre, mae’r C4 yn rhedeg i Gaernarfon drwy Penygroes, gwaelod Groeslon a Llanwnda.

Ond os ydych eisiau gweld yr olygfa orau yn Dyffryn Nantlle ewch ar y C5 a gweld Crib Nantlle yn dod i’r golwg wrth i’r bws godi o Garmel i Fron. Y mynyddoedd a’u llethrau, chwareli  a llynnoedd yn ysblennydd yn eu lliwiau gwahanol. Wrth fynd am Cwm gwelwn Ddrws y Coed  a Mynydd Mawr. Wedyn ar ol i’r bws droi nol, daw Bwlch Mawr, Y Gyrn a’r Eifl i golwg o’n blaenau.  Ac wedyn ar y lon am Rhosgadfan, mae Bae Caernarfon ac Ynys Mon i’w gweld , a’r Fenai yn disgleirio oddi tanom wrth fynd i lawr yr allt am Rhostryfan. Gwledd i’r llygaid yn wir.

Mae’r gwasanaethau hefyd yn golygu gallu cyrraedd i bwyntiau cerdded penodol yn y Dyffryn. Er engraifft, draw at Lyn Cwm Dulyn yn Nebo, a cael taith hyfryd nol dros y Cymffyrch lawr am Danrallt. Nol i Penygroes wedyn, neu fyny am Cilgwyn drwy Talysarn.     Ac yn y pen arall draw at y Lon Wen o Rosgadfan, lawr Allt Coed Mawr i Waunfawr, ac mae Lon Gwyrfai yn dod o Waun i Caeathro, a Lon Eifion wedyn. Neu dal bws nol yn Bontnewydd.    Mae digon o bosibiliadau.   Hefyd mae modd ymuno a Llwybr Llechi Eryri yn sawl man wrth gwrs.

Diolch eto am y gwasanaethau newydd, a hwyl i pawb ar y crwydro.