Brwydr y Bandiau

Band o Ddyffryn Nantlle yn ennill

angharad tomos
gan angharad tomos

Nid Alun Ffred yw unig arwr Dyffryn Nantlle wedi’r Eisteddfod. Enillwyd Brwydr y Bandiau unwaith eto gan fand o’r Dyffryn, Moss Carpet, sef Osian Jones o Dalysarn. Ddwy flynedd yn ôl, artistiaid o Ddyffryn Nantlle enillodd y wobr gyntaf a’r drydedd wobr yn y gystadleuaeth. Cyfuniad o gerddoriaeth werin a seicadelig yw Moss Carpet. Fel rhan o’u gwobr, cawsant berfformio ar Lwyfan y Maes ac ym Maes B. Ddyddiau wedi’r Steddfod, mae Moss Carpet ar fin rhyddhau EP newydd dan Inois, sydd yn label o Benygroes.

Bu llawer o sôn am R.Williams Parry yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, ac mae’r cysylltiad yn parhau. Yn hen gartref y bardd mae Osian yn byw, ac i’r tŷ hwn y daeth cadair enwog Bardd yr Haf ym 1910.