Basgiad helyg fy Nain

Mor braf yw darllen yr erthygl am wehyddu helyg gan Angharad Tomos.

Wendy Jones
gan Wendy Jones
20230204_004847

Mae’r basged helyg uchod gennyf ond roedd un Nain, yn llai ac yn grwn ei siap. Un braf iawn i gario.

Mor braf yw darllen yr erthygl am wehyddu helyg gan Angharad Tomos yn son am sesiynau gan Eirian Muse i blant. Mae’n fy atgoffa o fasged helyg fy Nain. Un bach crwn yr oedd, ar gyfer gwneud negas. Yr oeddynt yn dra chyffredin pryd hynny ond nid wyf yn gwybod os oeddynt yn cael eu gwehyddu’n lleol.

Mor wahanol oedd siopio negas pryd hynny! Bu Nain yn siopio yn lleol yn Nhalysarn gydag ambell i daith i Benygroes ar y bws i brynu ychydig o gig. Daw’r dyn llefrith a photeli llefrith pob dydd ac oedd y patrwm o siopa bron iawn pob dydd am ychydig o fwyd ffres yn osgoi’r angen am rewgell. Teclyn dieithr oedd hwnnw yn y 60au beth bynnag.

Byddaf yn trio cofio’r prydau a oedd yn ein cynnal ni pryd hynny, prydau digon syml wedi ei baratoi cartref. Bara wedi ei dorri’n denau gyda menyn Cymru grwn a chaws i swper, sleisen o ‘boiled ham’ a thomato i de efallai. Tatws pum munud – tatws, nionyn, bacwn ac oxo yn ffefryn gennyf. Lobscows a chawl pys a ham shank yn brydau poeth a oedd yn parhau dros dri diwrnod. Y blas gorau gennyf oedd y pryd ar y trydydd diwrnod! Yn amlwg roedd y mochyn druan yn bwysig fel ffynhonnell bwyd ac wyau hefyd. Roedd wy wedi ei ferwi yn frecwast reit aml. Nid oedd neb yn dewis pryd nac yn meiddio mynd i’r cwpwrdd bwyd. Roeddynt yn brydau wedi ei gynllunio yn ofalus oherwydd cyfuniad arian.

Ar y Sul roeddem yn cael cig oen efo ‘mint sauce’ cartref. Ar y cigydd oedd y bai am maint y cig oen yn dod allan o’r popty. Roedd o’n edrych gymaint llai yn dod allan nag yr oedd o’n mynd i mewn! Bara oedd y peth i lenwi unrhyw fylchau yn y bol. Bara menyn wedi ei dorri yn denau. Nid wyf yn cofio bwyta cig iâr, roedd y rheini yn ddrud iawn i mi gofio.

Pan oedd yna ddigon o ffrwythau tymhorol gwelwn deisen afal a theisen mwyarduon ar y bwrdd. Roedd yna wastad marmaled a bisgedi Mari. Hefyd, past pysgod (fish paste) i roi ar frechdan, a thuniau o pilchards. Nid wyf yn cofio tuniau eraill, dim ond tuniau pilchards. Fedrai ddim cofio plastig o gwbl ynghlwm ar negas. Greaseproof paper a oedd o gwmpas bacwn a chig. Er fy mod i yn meddwl bod y rhewgell yn ddefnyddiol i gadw bwyd yn hir ac yn gymorth i osgoi amseroedd lle efallai buasai bwyd yn brin, dwi’n falch o’n hatgofion uchod oherwydd mae’n dystiolaeth ei fod yn bosib byw heb blastig.  Ac felly osgoi ei effaith niweidiol yn ein hamgylchedd. Ond beth ydach chi’n meddwl?!