Dwy ardd ym Mhenygroes

Dau le da i ymlacio ynddynt

angharad tomos
gan angharad tomos
6C6D1813-49B1-4A31-A791

Gardd Eden, Stryd y apel

6B4F5BEA-F0F3-4F6A-96AA

Gardd Wyllt, ger y Co-op

4051842C-813F-4AA3-A3AC

Yr Ardd Wyllt

Mae’r cennin pedr cyntaf wedi ymddangos yn yr Ardd Wyllt ger Co-op Penygroes. Mae’n arbennig gan mai dyma’r cennin pedr cyntaf i ymddangos ar y safle ers degawdau. Fe’i plannwyd, fel degau o rai eraill nol yn yr Hydref gan Glwb Garddio Yr Orsaf. Mae’r newid sydd wedi digwydd yn y fan hon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn syfrdanol, fel y gwyr y rhai sy’n cerdded heibio yn ddyddiol. Cafwyd llwybr troed, plethwyd gwiail i wneud ffens, gosodwyd mainc i eistedd arni, lle i daflu sbwriel (efo to gwair!), a’r datblygiad diweddaraf yw pontydd cadarn i groesi’r afon. Mae rhwydwaith o lwybrau sydd wrth fodd plant, a bob bore Gwener daw plant ieuengaf ysgol Bro Lleu yma i brofi natur. Gan fod bocsys nythu ar y coed, mae’r plant wedi bod yn gosod afalau ar linyn a’u clymu ar y brigau. Mae dod yma petai ond am bum munud bob bore yn falm i’r enaid.

Rydym yn ffodus yn y pentref i gael gardd fach arall, un llai, yng nghefn Capel Calfaria, sef Gardd Eden ar Stryd y Capel. Datblygwyd hon yn go ddiweddar, ac mae planhigion mafon a choed wedi eu plannu yma. Pan ddaw y mafon, cewch ddod i’w casglu. Mae mainc yma, ac mae’n lle da i ddod a fflasg neu bicnic. Rydym yn gweithio ar wneud y lle yn fwy hwylus i’w gyrraedd.

Tasech chi’n dymuno helpu y criw garddio, maent yn cwrdd bob bore Mercher rhwng 10 a 12, fel rheol yn yr Ardd Wyllt. Cawn baned yn ystod y sesiwn hefyd. Cysylltwch a Gwenllian ar 07529 224629