Seiniau’r Goedwig Ddoe a Heddiw

Cyfansoddwr o Lanllyfni yn creu cerddoriaeth gyda help plant yr ardal

gan Ben Gregory

Mae darn newydd o gerddoriaeth wedi cael ei hysbrydoli gan gweithio efo ysgolion yn yr ardal dros yr haf.

Ysgrifennodd Tristian Evans, y cyfansoddwr o Lanllyfni, fel rhan o brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain, 2021. Cafodd y prosiect yn Nyffryn Nantlle ei freu trwy partneriaeth rhwngLlyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Brydeinig, Yr Orsaf, Penygroes a Pianos Cymru.

Trefnwyd gweithdy cymunedol  yng Ngardd Yr Orsaf yn ystod yr Haf, yn defnyddio recordiau am goedwigoedd yng Ngwynedd a Môn. Cyfansoddodd Tristian y darn ar ôl gweithio efo’r plant a rhieni, a gweld sut oeddent yn ymateb i’r darn. Roedd cyfraniadau gan blant yn Ysgol Bro Lleu, Ysgol Dyffryn Nantlle, Ysgol Felinwnda, Ysgol Llandwrog ac Ysgol Bontnewydd.

Mae’r darn – Seiniau’r Goedwig Ddoe a Heddiw – yn cynnwys cerddoriaeth gan Tristian, a lleisiau o Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Gwnewch paned, rhowch eich traed fyny, a threulio hanner awr yn gwrando ar waith Tristian:

https://www.casgliadywerin.cymru/items/1828366?fbclid=IwAR0ZrKjxdegTYt_L7zXZQXg8Ia7AcoBKmgnbVdWnis2nRfJyYj2Z7mW1wN0