Penblwydd hapus Neuadd y Groeslon!

Dathlu’r 100.

gan Llio Elenid
y gynulleidfaArwyn Herald

Mi oedd hi’n ddiwrnod i’w chofio yn Neuadd y Groeslon ddydd Iau diwethaf, y 10fed o Dachwedd. Roedd y Neuadd yn dathlu ei chanmlwyddiant, a pha ffordd well i ddathlu na hel atgofion am y blynyddoedd a fu, a dathlu talent y pentra? A dyna ddigwyddodd. Cafwyd arddangosfa o’r hanes (a chacan!) yn y neuadd yn y pnawn, a chyngerdd o ddoniau lleol gyda’r nos.

Roedd gan yr arddangosfa luniau ac atgofion o’r Clwb Garddio a’r Sioe, yr Eisteddfod, y Carnifal blynyddol, Merched y Wawr, gwersi karate a’r bowlio dan do. Roedd hanesion y gymdeithas ddrama a’r nosweithiau dramâu, y clwb snwcer, y clwb billiards, Bytholwyrdd, yr Urdd, partïon pen-blwydd a disgos Calan Gaeaf a ’Dolig, y cylch meithrin a sioeau gan yr ysgol. Roedd posteri o’r dawnsfeydd lu a gynhaliwyd yn y neuadd yn 60au, darluniau’r clwb arlunio, a lluniau o gigs a theithiau cerdded. Mae’r rhestr yn un hirfaith! Roedd hi’n syndod gweld cymaint o ddigwyddiadau a chlybiau oedd yn y pentref ar un adeg. Roedd hyd yn oed Operâu, Bazaar, Whist Drive ac Arwerthiant wedi cael eu cynnal yn y neuadd!

Mae Ysgol Bro Llifon wedi bod yn astudio hanes pentref y Groeslon yn ddiweddar, ac roedd eu gwaith gwych nhw hefyd yn rhan o’r arddangosfa – yn lluniau o’r neuadd, llinell amser, darnau hanesyddol, erthyglau a gwefannau am y pentref. A braf iawn i rai o ddisgyblion hynaf yr ysgol ddod draw i weld yr arddangosfa (ac i chwilio am eu gwaith eu hunain!).

 

Roedd y neuadd pnawn Iau yn llawn dop efo hoelion wyth y gymuned ar hyd y degawdau dwytha. Un o’r rheini oedd John Griffith, gynt o Llannerch, Penfforddelen, sy’n 100 oed ers mis Rhagfyr – roedd ar bwyllgor Neuadd y Groeslon yn y 1940au! A fo gafodd y fraint o dorri’r gacen! Diolch o galon iddo a’i fab am ddŵad draw i ddathlu efo ni. Ac i weddill hoelion wyth y Groeslon. Roedd pawb wrth eu boddau yn hel atgofion, chwilio amdanyn nhw eu hunain yn y lluniau, a byta’r gacan!

Roedd hi’n arbennig gweld cymaint wedi troi allan i’r arddangosfa pnawn Iau, a bore Sadwrn wedyn, a gweld y neuadd dan ei sang go iawn yn y cyngerdd yn y nos. Cafwyd gwledd go iawn o ganu ac actio a cherddoriaeth. Y plant meithrin, plant Ysgol Bro Llifon, Leisa, Jac a Celyn o’r pentra yn canu; cwmni drama Brynrhos yn dangos eu doniau actio; seindorf Dyffryn Nantlle yn perfformio, Ben ar y gitâr; Llio yn adrodd atgofion ei nain o fyw a thyfu fyny yn y Groeslon, a’r Penna Bach yn cloi’r noson gyda’u canu a’u hactio a’u giamocs gwirion! Hyn i gyd dan arweinyddiaeth Dafydd Owen.

Diolch o galon i’r pwyllgor i gyd am yr holl waith caled  o drefnu, Dafydd am arwain y noson, Dafydd Cilcoed ac Arwyn Herald am y lluniau, Carlton am y gacan, yr Archifdy am bori drwy’r casgliadau, yr ysgol a’r cylch meithrin am eu cydweithrediad, ac yn arbennig i bawb a gymerodd rhan ar y noson neu a gyfrannodd at yr arddangosfa. Diolch hefyd i bawb a ddoth draw i gefnogi, i brynu raffl, ac i ddathlu efo ni!

I ddyfynnu David Davies sydd ar y pwyllgor – “Os fuodd erioed angen prawf o bwysigrwydd Neuaddau Pentra i gymunedau, wel dyna fo yn weledig i bawb oedd yno.”

Penblwydd hapus i Neuadd y Groeslon a gobeithio’n wir y bydd hi yma’n dathlu ei 200fed phenblwydd mewn can mlynedd arall.

 cacan-terfynol