Wrth weld y newid yn maint ein Papur Bro y gwanwyn yma, cofiais fod gennyf hen rifyn sydd yr un maint o mis Mai 1976 a hynny pan oedd LLEU yn un oed.
Dyma bigion o beth oedd yn digwydd yn Dyffryn Nantlle yn Gwanwyn 1976 pan ddaeth wedyn yn Haf poeth iawn. Roedd Eisteddfod yr Urdd draw ym Mhorthaethwy, y grwp Crysbas yn cael ei ffurfio a Hergest yn Llandwrog yn recordio cân am Dinas Dinlle.
Yn Ysgol Dyffryn Nantlle daeth Llyfnwy yn fuddugol yn y Mabolgampau a Llifon yn olaf, er iddynt ennill y flwyddyn cynt. Aeth rhai o ddisgyblion yr Ysgol at daith gerdded yn Fforest Gwydir gyda Mr Grisdale a Miss H Jones, i godi arian i Oxfam. Mae llun or grwp gyda’r athrawon.
Yn Penygroes roedd Parti Penillion Lleu yn cael llwyddiant o dan arweiniad Mrs Carys Williams ac wedi ennill yn Eisteddfod Mynydd y Cilgwyn yn gynharach yn y mis. Roedd Rali Geir at gyfer aelodau Clwb Cwch Gwenyn, a neb wedi mynd ar goll!
Yn Y Groeslon roedd Raffl Fawr mewn Noson Goffi ac ymysg y gwobrau roedd galwyn o betrol, cyw iar a phaced o sigarennau. Roedd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr am ddechrau Cylch Trafod Llyfrau. A llongyfarchwyd Mr Wiliam Griffith Penfforddelen ar enedigaeth cyw mul i’w fules Tami.
Yn Clwb y Cilgwyn yn Carmel daeth Mr Tomi Jones o’r Groeslon i sôn am ei hen ardal sef Y Cilgwyn. Crydd oedd wrth ei alwedigaeth gyda’i gwt gwaith yn cefn Rhes Gladstone.
Roedd Neuadd Llanllyfni yn 50 oed ym 1977 ac roeddynt yn edrych mlaen i ddathlu. Hefyd roedd sôn am gael pwll nofio yn y cae chwarae!
Ar nos Wener roedd cylch trafod llyfrau yn Nantlle ac wedi bod yn cryn llwyddiant. Cafwyd Cyfarfod i geisio gwarchod hen injan drawst Chwarel Dorothea.
Yn Talysarn daeth y Co Bach or Felinheli i sgwrsio yn Clwb y Wyddfa a cafwyd noson ddifyr iawn. Aeth Sefydliad y Merched i Castell Cidwm am swper.
Maer tudalennau canol yn dangos Pwyllgor LLEU wrth eu gwaith yn Golygu, Teipio, Cysodi ac argraffu. A lluniau rhai o’r gwerthwyr ifanc yn Llanllyfni.
Ar y cefn wrth gwrs sô am y pêldroed ; Clwb y Fêl a pwt bach am Tim y Fron.
Rhaid diolch i’r Pwyllgorau dros y blynyddoedd am y Papur Bro a diolch i Anti Glenys yn Carmel am gadw sawl rhifyn o LLEU ers y 70au yn y stol piano. Maent yn ddifyr iawn.