Dyna braf oedd gweld y stafell yn Neuadd Goffa Penygroes yn llawn ar gyfer lansiad Llond Bol ar Hydref 27. I’r rhai sy’n cofio Swper Diolchgarwch flynyddoedd yn ol drefnwyd gan yr Eglwys, roedd yn ail afael mewn hen draddodiad.
Bydd Llond Bol yn cael ei gynnal rhwng 5.30 a 7.30 bob nos Fercher. Bydd pryd poeth ar gael am ddim, mewn lle cynnes a chwmni. “Y syniad gwreiddiol oedd i’r gymuned gael gofod lle rydym yn cysylltu efo’n gilydd” meddai Trey McCain. Mae yn gwneud synnwyr o ran ystyried yr amgylchedd hefyd. Pan mae costau tanwydd mor uchel, mae coginio i lawer mewn stafell gymunedol yn arbed dipyn o gostau. Daeth dros 30 at ei gilydd, a chafwyd amser da a llond bol o fwyd. Gwirfoddolwyr wnaeth baratoi y bwyd, a diolch i Jim Yr Orsaf am wneud y rols bara a’r crymbl afal. Bu un ferch ysgol yn helpu’n ddi-dor am bedair awr.
Croeso i bawb nos Fercher nesaf, a’r hyn sydd ar y fwydlen yw Cyri Llysiau.
Mae’r Orsaf wedi lawnsio Hwb Helpu i gefnogi pobl drwy’r Argyfwng Costau Byw. Am ragor o fanylion, cysylltwch a Greta ar post@yrorsaf.cymru