Hwyl yn Henbant

Trip Ysgol Brynaerau draw i Fferm Henbant

Ysgol Brynaerau
gan Ysgol Brynaerau

Ein thema ni yn Ysgol Brynaerau y tymor yma ydi ‘Mae’r byd yn tyfu, sut mae bwydo pawb?’ Wrth feddwl am syniadau i gyd-fynd gyda’r thema, dywedodd Nel y buasai’n hoffi i’r ysgol fynd ar drip i ymweld â’u fferm nhw. Roedd pawb wedi gwirioni gyda’r syniad felly aethom ar drip i Fferm Henbant er mwyn gweld sut maen nhw fel teulu yn bod yn hunan-gynhaliol gan dyfu ffrwythau a llysiau eu hunain ac hyd yn oed yn eu gwerthu fel busnes.

Diwedd mis Medi oedd hi ac roedd yr ysgol gyfan i gyd ar bigau’r drain yn edrych ymlaen i fynd draw i Henbant. Gan nad ydy’r fferm yn bell o’r ysgol penderfynom gerdded yno ac felly i ffwrdd â ni yn ein siacedi melyn yn wên o glust i glust. Diolch byth roedd hi yn braf y diwrnod hwnnw, er cawsom un gawod o law am ychydig funudau tra roeddem ar ein ffordd.

Pan gyrrhaeddom, cawsom gacen afal flasus iawn gan Jenny a Matt a diod o ddŵr gyda blodau ynddo. Yna, aethom i eistedd i’r ysgubor ble roedd cadeiriau a soffas ar ein cyfer. Cawsom gyflwyniad difyr iawn gan Matt yn egluro ychydig am y fferm a sut aethant fel teulu ati i ddechrau y busnes. Cawsom lawer o ffeithiau difyr ganddo: Oeddech chi yn gwybod, mewn un llwyaid de o bridd mae yna fwy o bethau byw nag o bobl ar y byd?! Roedd yn pwysleisio pa mor bwysig ydy’r pethau byw hyn a thrychfilod er mwyn cael pridd da i dyfu ffrwythau a llysiau. Yn ogystal, soniodd Matt am ei hanes yn mynd draw i Antartica a cawsom weld lluniau difyr ohono yno.

Yn fuan wedyn, cawsom ein rhannu yn ddau grŵp. Roedd un grŵp yn mynd at yr anifeiliaid a roedd y grŵp arall yn mynd i’r ardd. Aeth ein grŵp ni (Dosbarth Blwyddyn 4, 5 a 6) gyda Jenny yn gyntaf ac felly i ffwrdd â ni i’r ardd. Yn wir i chi, roedd yr ardd yn werth ei gweld ac yn ddigon i dynnu dŵr o ddannedd unrhyw un. Roedd ffrwythau a llysiau ym mhob twll a chornel! Roeddem yn ceisio dyfalu beth oedd bob dim gan fod cymaint o amrywiaeth fel sbrowts, moron, pys, nionod, afalau, ond i enwi rhai. Yna, cawsom gystadleuaeth ardderchog!! Roedd rhaid i ni ddewis  math o bridd a tynnu pryfaid genwair allan o’r pridd er mwyn gweld pa fath o bridd oedd gan y mwyaf o bryfaid genwair. Roedd hyn yn llawer o hwyl ac roeddem wrth ein bodd yn cael baeddu ein dwylo. Y math o bridd oedd gyda’r mwyaf o bryfaid genwair oedd pridd cyffredin heb unrhyw gompost.

I ddilyn, newidiom drosodd ac aeth ein grŵp ni gyda Matt. Aethom draw at y ‘Polytunnel’ yn gyntaf a casglom ychydig o domatos a ciwcymbr er mwyn eu gwerthu yn Siop y Fferm. Aeth rhai ati i flasu y tomatos a’r ciwcymbr ac roeddent yn fendigedig. Cyn pen dim, aethom i weld yr ieir a oedd yn uchel eu cloch. Roedd yna fwy na 300 o ieir yno, allwch chi gredu hynny? Cawsom gyfle i fwydo yr ieir a chasglu’r wyau o’r cwt. Dywedodd Matt ffaith diddorol iawn wrthym sef bod wyau ieir yr un lliw a’u clustiau!! Roeddem wrth ein boddau yng nghanol yr ieir ac yn ceisio gwibio ar eu hôl i’w dal. Yna, aethom i weld yr gwartheg yn y cae. Roedd yr gwartheg yn enfawr!

Cyn gadael, aethom yn ôl i’r sied i nôl ein pethau a chael darn o gacen arall er mwyn cael egni i gerdded yn ôl i’r ysgol. Yna rhuthrom yn ôl i’r Ysgol gyda’n gwynt yn ein dyrnau er mwyn cyrraedd cyn amser cinio.

Roedd Henbant yn le ardderchog a diddorol tu hwnt. Cawsom gymaint o hwyl. Diolch i Matt a Jenny am y croeso cynnes.

Gan Ddisgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6 Ysgol Brynaerau