Dan Don o Hiraeth

Colli tri brawd yn Llyn

angharad tomos
gan angharad tomos

Hanes trist iawn, a hanes gwir gafwyd yn y Gymdeithas Hanes yng Nghapel y Groes, Penygroes ar Nos Wener, Tachwedd 11. Rhian Williams, Llangwnnadl, oedd yn siarad ar y testun ‘Dan Don o Hiraeth’.

Seiliodd ei darlith ar ddigwyddiad trasig pan aeth tri brawd o Tir Dyrys, Rhoshirwaun, yn eu cwch i Borth Widlin i archwilio cewyll ar ddydd Sadwrn, 23 Mehefin, 1933. Roedd John yn 26 oed, Ellis yn 21 a Dic yn 18. Gwaethygodd y tywydd a boddodd y tri, ac fe’u claddwyd ym Mynwent Hebron. Anfarwolwyd yr hanes gan englyn o waith R.Williams Parry, oedd yn athro WEA yn Rhoshirwaun ar y pryd, dan y teitl ‘Tri Physgotwr o Roshirwaun’.

Y tri llanc ieuanc eon – sydd isod,

Soddasant i’r eigion.

Aethant ddifater weithion

O bysg a therfysg a thon.

Yr hyn wnaeth y ddarlith yn un arbennig o ddifyr oedd llythyrau personol gan y teulu,  oedd ym meddiant Rhian, gan fod ei gwr yn perthyn i deulu’r tri llanc. Disgrifwyd y digwyddiad, yr angladd a’r effaith ar y gymuned yn hynod o fyw yn y llythyrau, ac fel athrawes, roedd Rhian wedi adrodd yr hanes i sawl dosbarth o blant, ac wedi mynd a hwy i ymweld a’r bedd. Mae dysgu hanes lleol fel hyn i’r genhedlaeth nesaf yn arbennig o bwysig.

John Roberts, Pontllyfni, fydd yn y cyfarfod nesaf o’r Gymdeithas ar nos Iau, Rhagyr 8ed      (7.30pm) yng Nghapel y Groes, Penygroes. Bydd yn trafod bywyd a gwaith Dr John Gwilym Jones dan y teitl, Hanes Rhyw Gymro. Croeso i bawb.