Tydi o’n od? Cawn ein magu yng nghanol defaid, mae olion hen ffatri wlan ym mhob ardal, ac mae mwy o ddefaid na phobl yng Nghymru, eto chawn ni byth ein dysgu am wlan. Dyna ddaru nharo mewn sesiwn ar wlan yn Yr Orsaf ddiwedd Hydref. Gweithdy Gwlan ydoedd dan ofal Jo, ac Angharad o Menter Mon, sy’n gyfrifol am brosiect Gwnaed a Gwlan.
Cawsom wybod cymaint o bethau ellir ei gwneud efo gwlan bellach. Mae iddo werth fferyllol, ac mae’n ddeunydd insiwleiddio gwych. Y peth pwysig yw fod stori yn cyd-fynd a’r cynnyrch, fel mae Ardal y Llynnoedd wedi ei wneud efo gwlan Hardwix – sy’n debyg iawn i wlad defaid mynydd Cymreig.
Mae gwlan yn wrth-facteria, yn gwrthsefyll tan, ac yn wych am insiwleiddio. Os carai unrhyw un gael sesiwn fentora efo gwlan, cysylltwch efo angharad@mentermon.com.
Roedd Jo yn dangos inni beth ellir ei wneud efo’r holl offer yn Ffiws, gofod gwneud Yr Orsaf – yn beiriannau gwnio, torrwr laser, torrwr feinal a phrinter 3D, peiriant i roi llun ar fwg neu ddefnydd, ac mae modd defnyddio’r rhain i gyd am ddim. (Cysylltwch efo osianr.yrorsaf@gmail.com). Rwan ydi’r amser i meddwl pa anrhegion Nadolig fedrwch chi eu gwneud! I orffen y sesiwn, cawsom gyfle i roi cynnig ar drin gwlan ein hunain. Un cynllun poblogaidd oedd Y Dyn Eira Cynnes, wedi ei wneud o wlan Cymreig.
Manteisiwch ar Stafell Ffiws Yr Orsaf. Mae anrheg wedi ei wneud a llaw yn cael ei werthfawrogu yn fwy na’r un.