Mae un o actorion Dyffryn Nantlle yn rhan o daith theatr gyffrous ac arloesol sy’n teithio Cymru ar hyn o bryd, ac sy’n dod i’r ardal yr wythnos hon.
Mae Fflur Medi Owen, sy’n byw yn Nyffryn Nantlle gyda’i meibion Twm a Nyfain yn wyneb cyfarwydd ar ein sgrins teledu. Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys Y Tad gan Theatr Genedlaethol Cymru, Pili Pala a 35 Diwrnod ar S4C, ac Ahoi! ar Cyw S4C.
Ond Ynys Alys yw prosiect diweddaraf Fflur, cynhyrchiad theatr-pop-rap Frân Wen sy’n dilyn merch ifanc a’i hannibyniaeth newydd wrth iddi adael ei chartref am y tro cyntaf.
Mae Fflur a’r actores adnabyddus Valmai Jones yn chwarae rhan mam a merch sy’n brwydro dros ddyfodol y tŷ sydd wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau.
Mae tocynnau ar gael ar gyfer 2 o berfformiadau Ynys Alys yn Galeri Caernarfon ddydd Iau. Dilynwch y ddolen hon.