Entrepreneuriaid y Dyffryn

Criw newydd Llwyddo’n Lleol 2050

gan Jade Owen

Mae cynllun Llwyddo’n Lleol 2050, Menter Môn wedi croesawu criw newydd o entrepreneuriaid ar gyfer 2022. Drwy gefnogaeth Llwyddo’n Lleol ac yr Hwb Menter mae 7 o entrepreneuriaid yn derbyn mentoriaeth a hyfforddiant wythnosol gan arbenigwyr o fewn y byd busnes. Yn ogystal â hyn bydd yr aelodau yn derbyn cefnogaeth ariannol o hyd at £1000 i helpu symud eu syniad busnes yn ei flaen.

Wedi ymuno a’r cynllun yw ddau o drigolion Dyffryn Nantlle, Luke Huntly ac Eleri Foxhall. 

Mae gan Luke, 19, Clynnog Fawr lygad ar gyfer ffotograffiaeth a dylunio graffeg ac mae wedi defnyddio ei ddoniau gyda busnesau lleol fel Dillad Nant a Maggie Twist. Mae nawr yn edrych i gymryd y cam nesaf gan sefydlu ei hun fel busnes. 

‘Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth a dylunio felly dwi eisiau cychwyn busnes efo’r diddordebau yma i helpu busnesau eraill tyfu.’

Mae Eleri, 32, Penygroes yn berchennog busnes Iogis Bach sydd yn cynnig gweithgareddau meddylgarwch a ioga i rieni, babanod a phlant.  

‘Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i ni gyd a bwriad y fenter hon yw ehangu mynediad at weithgareddau iechyd a lles fel ioga a meddylgarwch yn ein cymunedau.’ 

Wrth i’r rhaglen fynd ei flaen dros yr wythnosau nesaf bydd y grŵp yn rhannu eu teithiau busnes, gan arddangos y cyfleoedd a’r posibiliadau sy’n bodoli yng Ngogledd Cymru. I ddilyn datblygiad Luke, Eleri a gweddill y grŵp dros y 10 wythnos nesaf dilynwch Llwyddo’n Lleol 2050 @LlwyddonLleol2050 (Facebook, Instagram, Twitter).