Dwi’n deud wrth y mab yn amal “heb yr Ambiwlans Awyr, fysa chdi ddim yma”

Poeni am ddyfodol y gwasanaeth yn lleol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Gyda dyfodol yr Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle dan ystyriaeth, mae llawer yn teimlo fod angen trafodaeth bellach.

Owain Llyr sydd wedi bod allan i sgwrsio efo’r Cynghorydd lleol, ac i glywed am stori un dynes sydd a’i dyled yn fwy na llawer i’r gwasanaeth.