‘Fe’m ganwyd yng Nghae Du Isaf, Llanllyfni, ar Hydref 13, 1888, pan oedd Gladstone yn Brif Weinidog.’ Dyna un o frawddegau agoriadol y llyfr hwn. Hunangofiant Ellen G. Evans ydyw, a dwi’n hynod ddiolchgar fod Marian Elias wedi ymgymryd a’r dasg o gofnodi ei hanes rhyfeddol. Doeddwn i erioed wedi dod ar draws y llyfr tan rwan, ond mae’n antur bendigedig. Mae hefyd yn ffynhonell wych o hanes lleol.
Mae cymaint o gofiannau yn y Gymraeg, ond mae’r rhan fwyaf yn adrodd hanesion dynion canol oed sy’n enwog am rywbeth neu’i gilydd. Profiad hollol wahanol yw darllen hanes merch ifanc fentrus o gefndir cyffredin. Rydym yn credu mai heddiw yw oes y teithio, ac mai adre oedd merched Cymru ddiwedd y 19eg ganrif. Darllenwch y gyfrol fach hon i gael golwg gwbl wahanol. Mentrodd i’r Unol Daleithau cyn oes yr awyren, gan oresgyn rhwystrau fil. Ond ni anghofiodd Gymru na’r Gymraeg. Mae hefyd yn rhestru yr holl siopau oedd yn Llanllyfni pan oedd yn blentyn, heb son am bump tafarn!
Mae copi ar gael yn y Llyfrgell, ac mae’n llyfr i ysbrydoli unrhyw berson ifanc ar drothwy taith bywyd.