Cymdeithas Brynrhos

Noson Agoriadol

angharad tomos
gan angharad tomos

Nos Fawrth, Medi 27, braf yw cael dweud fod Cymdeithas Brynrhos yn ail-gychwyn. Yn Neuadd Bentref Y Groeslon, bydd Swper Agoriadol y Gymdeithas am 7 yr hwyr, a swper gwerth chweil ydyw. 
Marlyn Samuel fydd y cwmni difyr. Mae yn byw ar Ynys Mon, ac yn ymchwilydd efo’r BBC. Mae yn awdures nofelau poblogaidd a bydd yn darllen darnau o’i gwaith ar y noson. Am £10, mae deg noson yn fargen. Cynhelir y cyfarfodydd bob yn ail nos Fawrth, ac mae croeso i bawb.

Os byddwch eisiau bwyd nos Fawrth, ffoniwch yr ysgrifennydd, Shirley Owen, ar 831347.