Cadw’r Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle!

Mae cyfarfod ddydd Iau

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd yn ddiweddar, cefnogwyd yn unfrydol alwad y Cynghorydd sy’n cynrychioli Dinas Dinlle ar y Cyngor, Llio Elenid Owen, i bwyso am ddiogelu’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Ngwynedd.

“Dyma beth fyddai’r rhodd Nadolig orau y gallwn ni ei chynnig i drigolion Gwynedd,” meddai’r Cynghorydd dros Ward Groeslon “cadw’r gwasanaeth tyngedfennol bwysig yma yng nghanolfan Dinas Dinlle ger Caernarfon a’r Trallwng ac adeiladu ar y gwasanaethau hynny.”

Daw neges y Cynghorydd Llio Elenid yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r Ambiwlans Awyr yr wythnos ddiwethaf, gydag arweinydd y cyngor, Dyfrig Siencyn a’r Cynghorydd Dilwyn Morgan hefyd yn bresennol.

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud hyd yma a bod ymgynghoriad cyhoeddus i gywain barn trigolion lleol a sefydliadau eraill i ddechrau yn fuan.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) yn wasanaeth meddygol brys tyngedfennol ac mae’n gwbl hanfodol i drigolion Gwynedd. Mae’r natur wledig a’r rhwydweithiau ffyrdd yn gwneud achub bywydau yng Ngwynedd yn heriol ar y gorau. Byddai ail-leoli’r gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru, heb os, yn achosi mwy fyth o her.

“Rydym fel cynghorwyr yn awyddus i ddatgan yn glir ein cefnogaeth a’n diolch ni, fel pobl leol, i elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud er mwyn darparu gofal brys yn ein cymunedau yn gwbl amhrisiadwy, ac mae’n bwysig ein bod yn cofio hynny. Mae gan elusen Ambiwlans Awyr Cymru rhan bwysig i’w chwarae yma yng Ngwynedd, mae’n un o’r elusennau sydd agosaf at galonnau pobl, yn arbennig yn fy nghymuned leol i yn ardal Dinas Dinlle.

“Rydym yn ymwybodol bod cymaint o bobl wedi elwa o’r gwasanaeth yma, a’i fod yn wasanaeth sy’n achub ac yn arbed bywydau. Mae’n anodd deall pam byddai dewis symud o Ddinas Dinlle nac o’r Trallwng, oherwydd natur wledig yr ardaloedd cyfagos. Dyw’r syniad o symud gwasanaethau i ardal boblog ar gyrion ffordd ddeuol yr A55 yn y gogledd ddwyrain ddim yn swnio’n rhesymol.”

Bydd cyfle i unigolion ardal Caernarfon a’r cyffiniau fynychu cyfarfod cyhoeddus yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon nos Iau 8 o Ragfyr am 7 o’r gloch. Bydd Hywel Williams, Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor a Rhun ap Iorwerth yn bresennol.