Rydym fel aelodau yn edrych ymlaen yn arw i ail gychwyn ein nosweithiau Clwb wedi blwyddyn a hanner ryfedd iawn.
I arwain y Clwb am y flwyddyn sydd i ddod, mae’r Swyddogion isod wedi eu hethol:
Cadeirydd: Gwen Thomas
Is-gadeirydd: Sion Bowness
Trysorydd: Glesni Jones
Is-drysorydd: Rhys Evans
Ysgrifenyddion rhaglen: Lois Jones a Sara Evans
Swyddogion llyfr cofnodion a DyffrynNantlle360: Begw ac Anni
Arweinyddion: Sian ac Eilir Evans, a Gwynedd a Sara Evans
Pob lwc i’r Swyddogion newydd a diolch yn fawr iawn i Swyddogion 2020/2021 am eu gwaith caled ac i bawb gefnogodd y Clwb mewn unrhyw fodd yn ystod y flwyddyn ??
Rydym yn edrych ymlaen i gyfarfod aelodau hen a newydd Nos Lun, 6 Medi 2021 ? Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Bydd croeso i unrhyw un rhwng Bl.9 a 30 mlwydd oed i ymuno a byddwn yn cyfarfod bob Nos Lun yn ystod tymor ysgol rhwng 19:30 a 21:00. Gallwch gysylltu â’r Clwb ar Facebook CFFI Dyffryn Nantlle neu ar Twitter @CFFI_DNantlle