Siocled Stepan Drws

Now, Lewis ac Enid yn codi calon trigolion yr ardal.

gan Siwan Thomas
Siocled-Stepan-Drws-1

Mae’r cyfnod clo yn gyfnod digon annifyr i lawer ohonon, ac mae Now, Lewis ac Enid o Rhostryfan wedi penderfynu mynd ati i geisio codi calon, a chodi arian at elusen ar yr un pryd, drwy werthu Siocled Stepan drws.

Mae cwmni siocled o’r Bala wedi creu’r siocled gan ddefnyddio dyluniad arbennig y plant ar y pecyn.

Mi fydd yr elw i gyd yn mynd tuag at Awyr Las (Ysbyty Gwynedd).

Roedd eu menter mor boblogaidd fel bod eu bocs cyntaf wedi gwerthu allan yn syth, ond mae nhw wedi derbyn mwy o gyflenwad erbyn hyn.

Os ydych chi yn awydd bar o siocled i godi eich calon neu awydd codi calon rhywun arall, mae’r tri yn eu dosbarthu, yn ddigyswllt o amgylch pentref Rhostryfan, gan ei adael ar stepen eich drws wrth iddynt fynd am dro yn ddyddiol.

Mae modd eu harchebu Siocled Stepan Drws am £2.80 y bar drwy gysylltu gyda:- lliwallun@outlook.com 

Ond os nad ydych yn byw yn Rhostryfan, peidiwch â phoeni, mae modd iddynt ei bostio atoch am 96c yn ychwanegol..  

Da iawn chi Now, Lewis ac Enid am fod mor feddylgar o eraill.