Cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri dros y penwythnos a chafodd Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle ddiwrnod llwyddiannus iawn.
Llongyfarchiadau mawr iawn i holl aelodau’r Clwb ar eu llwyddiant ?? Dyma ganlyniadau’r Clwb i chi…..
?Unawd Dan 16: Leisa Lloyd-Edwards
?Gwaith Cartref Dan 16: Begw Elain
?Unawd Alaw Werin: Leisa Lloyd-Edwards
?Unawd Sioe Gerdd: Leisa Lloyd-Edwards
?Unawd Alaw Werin: Elan Mair Williams
?Sgets: Dafydd, Cian, Awel, Elan a Mared
?Parti Llefaru
?Parti Cerdd Dant
?Unawd Dan 16: Elan Mair Williams
?Llefaru Dan 16: Elan Mair Williams
?Sgen ti Dalent: Anni a Tesni
?Y Gadair: Elan Mair Williams
Daeth y Clwb yn 3ydd ar ddiwedd y cystadlu gyda Chlwb Llangybi yn dod i’r brig unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac i Siwan Prys Owen (Llecheiddior) ar gipio’r Goron.
Mae ein diolch yn fawr i Manon Eithinog, Ellen Gwern, Bethan Nantcyll, Sian Trigfan a Sara Lleuar am eu gwaith a’u cefnogaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Diolch yn fawr iawn i chi ??
Fe fydd Leisa ac Elan yn mynd ymlaen i gynrychioli CFFI Eryri yn Eisteddfod CFFI Cymru ym mis Tachwedd. Pob dymuniad da i chi genod?