Dringfeydd Dyffryn Nantlle

gan Eben Muse

gan Elan G Muse
Pop-Block yn Nrws y Coed

Pop-Block yn Nrws y Coed

Machlud o gopa Cwm Silyn

Machlud o gopa Cwm Silyn

eben-a-gwyn

Eben a Gwyn

Cwm Silyn

Cwm Silyn

Cwm Silyn

Cwm Silyn

Llech Drws-y-Coed

Llech Drws-y-Coed

Llech Drws-y-Coed

Llech Drws-y-Coed

Dyn yn cerdded efo mat bowldro

Dyn yn cerdded efo mat bowldro

Llech Drws-y-Coed

Llech Drws-y-Coed

Craig Las

Craig Las

Clogwyn y Garreg, llun Pete Edwards

Wedi fy magu yng Ngharmel, efo mynyddoedd o’n amgylch, o’r cychwyn cynta’ ro’n i wrth fy modd yn dringo. Dringo coed yn yr ysgol, neu yng nghanolfan ddringo’r Beacon yn hen orsaf Marconi Waunfawr. Dwi’n cofio mynd am dro i Gwm Idwal a chraffu ar helmedi coch y dringwyr oedd yn sgrialu i fyny’r clogwynni. Ond welais i erioed unrhyw ddringwyr yn Nyffryn Nantlle.

Erbyn i mi fynd i’r coleg, roeddwn i wedi cael y cyfle i ddysgu mwy am sut i ddringo yn y tu-allan, a phan o’ni adre’, pob cyfle oedd ar gael, ro’n i’n treulio dyddiau maith yn Nant Peris, ar Glogwyni Gogarth, neu ymysg creigiau garw Porth Ysgo. Dringo dringo dringo! Roeddwn i’n edrych o fy amgylch a’n teimlo atyniaid yr ardaloedd adnabyddus ‘ma.

Un diwrnod, wrth bori drwy Palas Print yng Nghaernarfon, dyma hen lyfryn bach tenau yn dal fy llygad i: “Cwm Silyn a Cwellyn”. Od! Ro’n i’n ymwybodol fod Cwm Silyn yn Nyffryn Nantlle, a’i fod o’n le serth uffernol, ( a finna’n gyn gapten ysgol tŷ Silyn cofiwch), ond roedd y syniad fod dringfeydd o werth i’w cael yno’n syndod i fi! Dyma fi’n prynu’r llyfr, a darganfod fod craig Cwm Silyn yn drysor mawr, ond nid yn unig hynny, ond fod o’n un trysor ymysg nifer o drysorau! Yn y blynyddoedd canlynol, dysgais am fodolaeth sawl craig a chlogwyn arall yn y dyffryn, o bob maint, lliw, a siâp. Dringo â rhaffau, neu ddringo dros badiau meddal (bowldro dani’n galw hyn.. oes rhywun efo enw gwell i mi gael cychwyn defnyddio? Plis?). Rhyw ddydd, hoffwn i weld Dyffryn Nantlle yn gweld budd economaidd creigiog a natur wahanol i’r cyfoeth a lifodd allan o’r dyffryn yn oes y llechi. Cyfoeth mwynhad ein cynefin ardderchog, a chydig o gyfoeth y rheini a ddaw yma i’w mwynhau nhw yn ein cwmni ni, falla! Fodd bynnag; bydd yr erthygl yma yn eich tywys chi atyn’ nhw, gan roi tro ar gyfleu chydig o naws ac antur y llefydd arbennig yma o fewn ein Dyffryn ni – ac os ydych chi’n gwybod am lefydd nad sydd ar y rhestr yma sydd yn greigiog ac yn serth, cysylltwch â fi!

Cwm Silyn

Dwi’n cofio’r tro cyntaf i mi grwydro at wal ddeheuol Craig yr Ogof, yr uchaf a’r gorau o glogwyni anferth Cwm Silyn, yn sefyll fel cawr mawr llwyd yn gwylio dros y Dyffryn. Mae’r llechwedd serth yn le perffaith i wylio’r haul yn machlud, neu gyfri rhesi tai teras Talysarn. Mae’r clogwyn ei hun yn ddigon uchel ei bod hi’n cymryd oddeutu chwe hyd raff i gyrraedd y copa (ryw 130m o ddringo, y mwyafrif yn syth i fyny). Yn dilyn gafaelion bychain ar graig o ansawdd uchel, mae dringfeydd megis “Jabberwocky” a “Kirkus’s Direct” yn llwybreiddio eu ffordd i fyny tua’r copa. Mae sawl dringfa yma hyd yn oed yn adnabyddus ar hyd a lled y DU, gyda ‘Outside Edge Route’ yn ymddangos ar restr hanesyddol ‘Classic Rock Routes of Great Britain’. Yn anturus, yn aml yn wyntog, heb os fy hoff le i ddringo yn y Dyffryn (efallai yn y byd). Ar ddiwrnod braf o haf, does dim byd gwell na mynd i nofio yn nŵr gloyw llyn Cwm Silyn Uchaf yng ngwres y dydd, cyn dringo fyny i frig y cwm i fwynhau brechdan wrth i’r haul fachlud dros y môr. Mae’na ambell graig arall o gwmpas y cwm sydd yn adnabyddus efo’r criw bowldro lleol hefyd. 

Craig Las

Pan ddaeth y llyfr tywys newydd Bowldro Gogledd Cymru allan y llynedd, roeddwn i’n hollol syn i weld fod y graig a’i dewiswyd i fod ar y clawr wedi ei lleoli yn Nyffryn Nantlle! Cerddwch am awr a hanner fyny llethrau serth y dyffryn, a cewch eich croesawu gan un o greigiau mwyaf arbennig Cymru. Yn eistedd yn swta ar waelod Craig Las rhwng Mynydd Tal Mignedd a Chraig Chwm Silyn, mae’r brif graig (a enwyd “The Infinity Boulder” yn anffodus…) yn un hollol wych. Dychmygych wyneb llyfn, llwyd, a hafnau bychain, perffaith, yn yr union fan a’r lle, fel ei bod hi’n bosib dringo’r graig yn y ffordd anoddaf bosib. Anoddaf, ond dal yn bosib! Mae anhawster a safon y dringfeydd yma wedi bod yn ddigon i ddenu sawl un i fyny’r llwybr serth, hir, yn ystod yr haf. Dyma’r math o le mae pobl yn dod o bell iawn i gael treulio prynhawn yno, yn drysor ac yn ased gwerthfawr i’r Dyffryn. Mae sawl craig lai ond gwerth eu canfod gerllaw hefyd.

Craig y Bera

Mae Craig y Bera yn gasgliad difyr o dyrrau creigiog ar lethrau de-ddwyreiniol Mynydd Mawr. Mae safon y dringfeydd yn amrywio o fod yn wych i fod yn erchyll felly mae angen dewis yn ddoeth. ‘Angel Pavement’, yw un o’r dringfeydd mwyaf dibynadwy a phoblogaidd yno, a dwi’ wrth fy modd a’r enw! Pafin nefolaidd yn estyn i’r pellteroedd uwchben y Dyffryn a’i defaid! Hyfryd. Fe fu gwrthrawiad gan awyren ar ochr uchaf y clogwyn yn y 60au ac mae ei gweddillion hi yn dal ar wasgar ar hyd y lle.

Clogwyn y Garreg

Ers blynyddoedd mae Clogwyn Y Garreg yn ardal wedi ei hesgeuluso gan ddringwyr- clwstwr o ddringfeydd traddodiadol, byr, sydd ymhell o fod yn dal dychymyg pobl, er gwaetha’r olygfa odidog. Ond yn ddiweddar, diolch i waith datblygwyr lleol, mae’r ardal wedi cael modd i fyw.  Gyda nifer parchus o ddringfeydd newydd o bob hawster wedi eu sefydlu yno, a rheini wedi eu cyhoeddi yn y tywyslyfr newydd, mae’r grib hir, wen o graig yn denu ymwelwyr unwaith eto.

Drws Y Coed

Mae Drws y Coed yn le arbennig iawn! Mae clogwyn gwyn a elwir yn ‘Lech Drws y Coed’ gan ddringwyr ger y bythynnod a’r capel, ac mae hi’n adnodd hollol unigryw i’r Dyffryn. Er i mi drafeilio i sawl cyfandir yn dringo, ac ar hyd y DU, dydw i erioed wedi dod ar draws craig o’r run math- ‘micro granite’. Crisialau man, sy’n teimlo fel papur llyfnu, ond yn llachar wyn (yn yr haf yn enwedig), ac yn wytnach nac unrhyw graig arall dwi’n gyfarwydd â hi. Ffurfia’r graig brin hon grychion man a thonnau cynnil ar hyd ei harwyneb sy’n gwneud y job o’i dringo hi yn un anodd a chrefftus. Mae’r ffyrdd i fyny’r graig, gydag enwau fel “Y Pregethwr”, “Er Cof”, ac “Eat My Shorts” yn rai i’r dewr ac anturus yn ein plith ni. Hon oedd hefyd safle graffiti mawr gwyn mewn protest yn erbyn tai haf. Bechod yw trin adnodd lleol unigryw fel billboard- ond dwi’n gallu deall sut y byddai rhywun sydd ddim yn gyfarwydd a dringo yn medru ei gweld hi felly braidd. Erbyn hyn mae’r paent wedi ei olchi i ffwrdd, a hoel hyll jetwash wedi niweidio’r lichen a’r algae a fu yno ers degawdau er gwaetha traed a dwylo’r holl ddringwyr dros y blynyddoedd! 

Gerllaw mae’r “Pop Block”- ciwb bach o graig sydd ond ryw saith troedfedd o uchder, ond yn llwyddo i fod yn le gwych i ddod i ddringo ar ôl glaw, gan ei bod hi naill ai byth yn gwlychu, neu yn sychu yn syth bin! ‘Problemau’ dani’n galw dringfeydd ar greigiau bowldro, ac mae’r rhai yma yn rai dyrys tu hwnt, yn herio rhai o ddringwyr gorau Cymru. Mae gen i ambell atgof melys o eistedd oddi tani hi ynghanol oerfel y gaeaf, gyda fy lamp, yn gwrando ar ABBA ar fy mhen fy hun. Lle arbennig o braf.

Clo:

Dyma i ni felly restr fras o’r cyfoeth creigiog  sy’n bodoli yn Nyffryn Nantlle- rydw i’n hollol sicr fod potensial yma am sawl lle arall i’n diddanu ni. Rydw i’n ymwybodol o ba mor heriol ydi hi i rywun lleol gael y cyfle i ymddiddori yn y gêm wirion yma o ddringo creigiau, credwch fi. Mae’r ffaith fod gymaint o’r ardaloedd yma dw’i wedi eu rhestru gydag enwau Saesnig yn tystio i’r ffaith fod dringo wedi bod yn gamp dyn dod ers degawdau. Gobeithio fod yr erthygl yma yn un cam i’r cyfeiriad o gymryd perchnogaeth o hyn. Mae llefydd fel Llanberis a Blaenau Ffestiniog wedi llwyddo i elwa’n sylweddol o’r hyn sydd ar eu stepan drws, nid yn unig yn ariannol, ond yn gorfforol ac yn feddyliol. 

Gobeithio y tro nesaf y bydda i ar y llethrau, fe glywa i lais lleol yn diawlio na fedra’ nhw gyrraedd y gafaelyn nesaf am unwaith, ac os welwch chi ryw foi yn cerdded o gwmpas efo clamp o sgwâr mawr ar ei gefn (gweler y llun) d’wedwch helo!

(Eben Muse, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd BMC Cymru. Pob llun gan Eben, heblaw am y llun olaf sydd gan Pete Edwards)