“Mae o’n dipyn o golled i gefn gwlad am ei fod o’n rhywle mae pawb yn heidio i yn flynyddol”

Ymateb Llinos Hughes o fferm Bryn Eithinog i ganslo Sioe Frenhinol Llanelwedd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Llinos Hughes o fferm Bryn Eithinog, Pontllyfni wedi bod yn rhannu ei siom o golli allan ar un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr amaethyddol.

Daw hynny, wedi’r cyhoeddiad ddoe (Ionawr, 27) bod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi’i chanslo eto eleni.

Roedd disgwyl i’r Sioe Amaethyddol fwyaf yn Ewrop gael ei chynnal fis Gorffennaf ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws wedi golygu nad oedd dewis ond canslo.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Sioe orfod cael ei gohirio oherwydd y pandemig.

“Mae o’n fisoedd o waith caled”

“Mae o’n dipyn o golled i gefn gwlad am ei fod o’n rhywle mae pawb yn heidio i yn flynyddol,” meddai.

“Mae hi’n rhan bwysig o’r flwyddyn i ni ac yr unig wyliau ‘da ni’n cymryd. Mae o’n le i weld ffrindiau ac yn le ‘da ni wedi gwneud nifer o ffrindiau dros y blynyddoedd.”

Er hynny, eglurai bod y Sioe Frenhinol yn fwy nag cyfle i gymdeithasu yn unig ac yn hytrach mae’n galluogi i ffermwyr ar draws y wlad i ddangos eu cynnyrch, rwydweithio, godi eu proffil a chynyddu eu gweithiant.

Dywedodd bod y newyddion yn siom i’w mhab Ifan hefyd:

“Mae hi’n gallu bod yn wythnos galed,” meddai, “mae o’n fisoedd o waith caled i rywun fel Ifan, sydd wedi tynnu ei ddefaid dangos i mewn yn barod.

“Mae o’n mynd i fod yn sobor eto i feddwl mai hon ydi’r ail flwyddyn mae’n rhaid gohirio,” meddai.

“Dwi jest gobeithio y daw hi’n ôl.”

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.