gan
Gwenllian Jones
![20210701_192138](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/5/2021/07/20210701_192138-640x396.jpg?o)
Jerry Hunter a’i nofel newydd, Safana
![20210701_185004](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/5/2021/07/20210701_185004-308x190.jpg?r)
Lansiad Safana ym Mhant Du, Penygroes.
Braf oedd cael dathlu lansiad go iawn eto, y cyntaf ers 18 mis i wasg y Lolfa. Ar nos Iau 1af o Orffennaf, daeth nifer fach o wahoddedigion at ei gilydd ym Mhant Du, Penygroes, i ddathlu lansiad Safana, nofel newydd Jerry Hunter, sy’n byw ym Mhenygroes.
Gareth Evans-Jones fu’n holi’r awdur am ei nofel sydd yn trafod themâu megis caethwasiaeth, rôl unigolyn o fewn cymdeithas ac sydd â sbiwraig ifanc yn yn brif gymeriad i’r stori. Roedd siop lyfrau Palas Print yno’n gwerthu copïau a daeth Heno draw i ffilmio Jerry Hunter a Richard ac Iola, perchnogion Pant Du.
Mae Safana gan Jerry Hunter ar gael o’ch siop lyfrau leol nawr, am £8.99.