gan
Yr Orsaf
Podlediad ar gael nawr – Pennod 1: Cerddoriaeth
Mae’r Orsaf yn cynhyrchu cyfres o bodlediadau am fywyd yn Nyffryn Nantlle: “Crwydro Trwy’r Dyffryn.” Y gobaith yw creu sioe am Ddyffryn Nantlle trwy drafod agweddau gwahanol o’r ardal gyda phobl y dyffryn.
Mae’r bennod gyntaf ar gael yn barod. Ynddi rydym yn trafod cerddoriaeth: Cerddoriaeth y capel, band pres, a’r Brodyr Francis, ymysg cerddoriaeth gyfoesol yn yr ardal, i greu argraff mor llawn â phosib mewn 20 munud.
Mae’r bennod gyntaf yn bosib diolch i’n siaradwyr Dr. Ffion Owen, Osian Cai Evans, ac Iwan Fôn. Hefyd rydym yn diolch i LleChi a Chronfa Treftadaeth y Byd.
Podcast pennod 1: