Byddai codi Treth ar Werth i 20% yn “llorio” busnesau lletygarwch yng Nghymru

“Mae o wedi bod yn help mawr iawn,” meddai perchennog Pant Du

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Gwinllan a Pherllan Pant Du

Mae perchnogion busnes yng Nghymru wedi croesawu galwadau Plaid Cymru i ymestyn rhyddhad Treth ar Werth (TAW) ar gyfer busnesau lletygarwch am flwyddyn arall.

Ym mis Gorffennaf, penderfynodd Llywodraeth Prydain ostwng Treth ar Werth ar fwyd, llety ac atyniadau o 20% i 5%, ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach tan ddiwedd mis Mawrth.

Yn ôl Richard Wyn Huws,  perchennog Gwinllan a Pherllan Pant Du, yn Nyffryn Nantlle, byddai cynnal y rhyddhad Treth ar Werth am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i’w dyfodol ac yn rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.

“Rhoi hyder i’r diwydiant i symud ymlaen”

“Mae o wedi bod yn help mawr iawn,” meddai Richard Wyn Huws.

“Mae gwerth cario hynny ymlaen – mae o’n rhoi hyder i’r diwydiant i symud ymlaen gan wybod fod o ddim yn costio 20% am bob dim ti’n prynu.”

Dywedodd y byddai dychwelyd i’r gost Treth ar Werth arferol o 20% yn “llorio” y busnes.

“Rydyn ni wedi buddsoddi lot yn ein busnes ni – rydyn ni’n byw mewn ardal hyfryd yn Eryri – Dyffryn Nantlle – ar gyfer y bobl leol a thwristiaid,” meddai wedyn.

“Pan wyt ti’n gorfod cau dy ddrysau a hithau’n ddiwrnod braf neis a ti’n gwybod y byddai yna lot o bobl yn troi fyny – mae o’n dorcalonnus.

“Ti’n gweld y drws ar gau a’r car park yn wag a dim llawer o bres yn dod i mewn – dydi o ddim yn neis, dydi o ddim yn neis o gwbl.

“Mae’r weledigaeth oedd gen ti’n wreiddiol – mae’r drws wedi cau yn dy wyneb di.

“… ac mae pawb yn colli allan.”

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.