Troi’r Dyffyrn Yn Wyrdd

Cyfarfod i daclo’r her mwya sy’n ein wynebu

gan Ben Gregory

Mae newid yn dod, licio fo neu beidio

– Greta Thunberg

Newid hinsawdd a’r dirwyiad yn yr amgylchedd – bywyd gwyllt, planhigion, afonydd, y mor – yw’r her fwya sy’n wynebu’r byd. Dim ots os ydym yn byw yn Detroit neu Dyffryn Nantlle, mae’r byd yn cynhesu, gyda effeithiau trychinebus sy’n amlwg i’w gweld.

Er gwaethaf y newyddion digalon, gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch. A’r newyddion da yw fod cymunedau drwy Gymru yn dod at ei gilydd i gynllunio a gweithredu ar y newidiadau hanfodol.

Un sydd wedi bod yn arwain y ffordd yw Dyffryn Gwyrdd Ogwen. Mae Tref Werdd yn Blaenau Ffestiniog hefyd wedi bod yn esiampl i drefi a phentrefi eraill sydd eisiau taclo newid hinsawdd. Ar nos Fawrth, Ionawr 21, 7.00, bydd Mel Davies o Bartneriaeth Ogwen yn dod i’r Orsaf i’n helpu i drafod beth allwn ei wneud gyda’n gilydd i amddiffyn a gwella ein dyffryn ni. Croeso i bawb.

Digymar yw fy bro trwy’r cread crwn,

Ac ni bu dwthwn fel y dwthwn hwn

– Adref, R. Williams Parry