Torri gwallt i blant ifainc â chancr.

Codi arian a rhoi fy ngwallt i ‘The Little Princess Trust’ am y tro cyntaf.

Lleucu Non
gan Lleucu Non
IMG_1472

Torri fy ngwallt i

Rydw i wedi dweud ers tair/pedair blynedd fy mod i’n mynd i dorri fy ngwallt a chodi arian ar gyfer ‘The Little Princess Trust’.  Nawr, rydw i’n benderfynol o gyflawni’r addewid a rhoi fy ngwallt am y tro cyntaf.

Dydd Iau yma, byddaf yn torri 20″ o fy ngwallt a’i yrru i ‘The Little Princess Trust’ yn Swydd Henffordd. Mae’r elusen gwych yma’n mynd i droi fy ngwallt i mewn i wig/iau ar gyfer plant a phobl ifainc sy’n dioddef o gancr.  Bydd y pres sy’n cael ei gyfrannu i gyd yn cael ei roi tuag at ymchwil hanfodol.   Felly, mae pob ceiniog yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth i achos yr elusen yma.  

Os hoffech gyfrannu ryw bunt neu ddwy at yr achos byddaf yn andros o ddiolchgar.  Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n barod a diolch i bawb am eich cefnogaeth!

Dyma’r ddolen at fy nhudalen codi arian sydd ar Gweplyfr (Facebook).  

https://www.facebook.com/donate/857711437965970/?fundraiser_source=external_url