Tips gweithio adref gan Begw Elain

Begw Elain
gan Begw Elain

Helo

 

Fy  enw i yw  Begw Elain a dwi’n bymtheg ac yn mlwyddyn deg yn Ysgol Brynrefail. 

 

Dwi wedi bod yn gweithio adre ers tua deg  wythnos dda rwan a dwi ddim wedi darganfod ddim byd anodd diolch byth (ar y funud)

Mae bob dydd yn wahanol I weithio adre gyda bob awr yn newid ar y newyddion, felly mae hi yn wir yn anodd ambell waith.Dwi am ceisio rhannu bach o tips efo chi heddiw am sut dwi yn ffeindio gweithio adref yn lwyddiannus.

1.Peidiwch a cynllunio gormod-gallwch chi wneud rhestr o dagsau I ei chyflawni ond peidiwch a gorfodi eich hunain I weithio trwy dydd,bob dydd.

2.Mae sefyllfa gweithio adref yn anodd I bawb felly ddylsech chi gyntaf darganfod  lleoliad I weithio sydd yn gyfforddus ac yn glir o eich ffôn er mwyn gweithio.

3.Peidiwch a rhoi ffidl yn y to ar ôl methu neud un tasg-cerwch ar wefanau fel BBc Biteseize,Tanio.com a llawer mwy.Mae dysgu eich hun yn anodd felly peidiwch a rhoid pwysau arnoch chi eich hunain.

4.Byddwch yn glen gyda eich hunain,cymerwch egwyl,cerwch allan I’r ardd am ginio a ddim eistedd o flaen laptop. trwy’r dydd!

5.Gnewch y gwaith unwaith pryd fyddai wedi gael eu osod,peidiwch a neud gwaith oherwydd dydy eich ffrindiau ddim yn neud gwaith.

6.Cymerwch yr amser I ddal fyny efo pwnc os rydych ddim yn teimlo yn gyfforddus ynddo cyn i’r lockdown.

7.Gofynnwch am help o hyd gan athrawon,mae nhw yno I helpu ac o hyd eisiau helpu,felly peidiwch a gyda cwilydd o gofyn am gyngor.

8.Ceisiwch drio galetach adre er mwyn llwyddo gan fod ganddoch fwy o lonydd.

9.Trefnwch mynd ar ffon gyda eich ffrindiau ar ol neu cyn neud gwaith,trafodwch gyda eich ffrindiau os rydych eisiau help.

10-Peidiwch a teimlo ddrwg o ddim eistedd ar sgrin laptop o naw tan dri fel diwrnod Ysgol arferol,cynlluniwch eich diwrnodau ar sut rydych chi yn teimlo.

Mae gweithio adref a dysgu ein hunain yn rhywbeth wnewn ni fyth anghofio,mae hi yn her newydd ac yn brofiad newydd.Dysgwch mwy o bethau eraill tra rydych adre hefyd fel coginio a diddordebau eraill.Ond plis peidiwch a gadael gwaith Ysgol lifo allan o rheolaeth,byddwch yn drefnus a wastad mewn cysylltiad gyda’ch athrawon.

Ceisiwch fwynhau gweithio adref,rhowch dillad gyfforddus ar I weithio a sicrhewch eich fod wastad yn mynd am dro er mwyn gael awyr iach ar ôl cwblhau ychydig o waith!

Nid fyswn I gallu diolch digon I athrawon Brynrefail,rydych chi wedi bod yn anhygoel!!

Fydd hi yn teimlo yn rhyfedd fynd nol I’r Ysgol  I bawb ond ar y funud mwynhewch gweithio adre a wastad byddwch yn agored os rydych ddim yn deall rhywbeth.

Arhoswch yn saff

Diolch yn fawr

Begw Elain