Rhedeg Drwy New York o Ddyffryn Nantlle

Rhedeg y Virtual TCS New York City Marathon i godi arian i GISDA

Hedydd Ioan
gan Hedydd Ioan
IMG_1443

Yn agos i fis yn ôl erbyn hyn fe gyhoeddais fy mod yn bwriadau rhedeg marathon er mwyn codi arian i GISDA.

Dydd Sul dwytha (18/10/20) fe redais y marathon efo amser o 4:36:49. Roedd o’n brofiad gwych (er yn un blinedig iawn) ac mi fyswn i’n argymell unrhyw i geisio rhyw fath o sialens yn ystod y misoedd nesaf. Boed yn rhedeg 5k, nofio yn mor, neu hyd yn oed cerdded mynydd. Roedd cael nod penodol i weithio tuag ato yn help mawr yn ystod y cyfnod clo.

Er ei fod wedi bod yn brofiad anhygoel dydi’r marathon ddim wedi bod am y rhedeg. Mae o wedi bod am geisio cefnogi menter sy’n gweithio’n galed iawn i helpu pobl sydd wir angen yr arian a’r gefnogaeth. Mae yn gymaint o bobl mewn sefyllfaoedd drwg ac mae gallu gwneud rhywbeth mor syml a rhoi un droed o flaen y llall i godi arian yn help gobeithio.

Mae diolch mawr i Lleucu Non hefyd am fy ysbrydoli i wneud hyn. Fe dorrodd Lleucu ei gwallt i help ‘The Little Princess Trust’. Fe ysbrydolodd hyn i fi redeg y marathon. Dwi’n gobeithio gwneith hwn ysbrydoli hyd yn oed oleiaf un person i wneud rhywbeth i godi arian hefyd. Felly ewch amdani!

Mae hi dal yn bosib cyfrannu drwy’r dudalen facebook yma.