Prentis Digidol yn Yr Orsaf

Bydd gŵr ifanc o Benygroes yn ymuno â staff Yr Orsaf i ddatblygu gwaith yn y Ganolfan Ddigidol

gan Ben Gregory

Oes gennych chi ddiddordeb mewn materion digidol? Felly ’dych chi eisiau cwrdd â phrentis digidol Siop Griffiths. Mae Daniel Crookes yn 18 oed, ac mae’n byw ym Mhenygroes. Aeth Daniel i Ysgol Bro Lleu, Ysgol Dyffryn Nantlle, ac mae wedi bod yng Ngoleg Menai am flwyddyn, yn dilyn cwrs ffilm a theledu, cyn dod i weithio yn Yr Orsaf gyda Siop Griffiths.

Bydd Daniel yn cefnogi datblygu’r Canolfan Ddigidol newydd, fydd ar agor yn gynnar yn y Gwanwyn. Yn y cyfamser mae Daniel yn recriwitio gwirfoddolwyr ar gyfer y ganolfan, a threfnu sesiynau i ddechrau clwb codio yn y pentref.

Mae Siop Griffiths wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, Coleg Menai a’r ddwy ysgol leol i helpu datblygu syniadau ac adnoddau ar gyfer y ganolfan. Pan mae’n agor ei drysau bydd yn cynnig sesiynau am godio, podlediadau a ffilmio – mae plant a phobl ifanc yr ardal wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd am ei ffilmiau.

Mae prentisiaeth Daniel wedi cael ei ariannu gan y Sefydlaid Rank, fel rhan o’i rhaglen Time to Shine, a’r Loteri.

Cysylltwch â Daniel ar daniel@yrorsaf.cymru.