Lansiad Ap Graen

Ap realiti estynedig newydd prosiect Treftadaeth Ddisylw?

gan Jade Owen

Fu pobl ifanc prosiect Treftadaeth Ddisylw? yn lansio ei ap realiti estynedig newydd Dydd Sul yn Chwarel Dorothea. Ar gyfer y lansiad fu’r grŵp yn arwain sawl taith tywys o amgylch y safle yn rhannu straeon chwarelyddol yr ardal ac yn dangos sut y mae defnyddio’r ap newydd.

 

Pwrpas yr ap yw tywys ymwelwyr ar daith o amgylch Chwarel Dorothea gan roi’r cyfle iddynt ddysgu am straeon yn ymwneud a hanes chwarelyddol Dyffryn Nantlle. Mae’r ap nawr ar gael am ddim ar ffônau symudol Apple ac yn fuan ar ffônau symudol Android.