“Y cyfnod yma yn dangos gwir werth mewn dynoliaeth a chymdeithas”

Wynne Williams o Ddinas Dinlle yn diolch am gefnogaeth pobol leol i rheini sy’n hunan ynysu.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Fel nifer o bobol sydd wedi ymddeol dydy Wynne Williams o Ddinas Dinlle heb adael ei gartref ers i gyfyngiadau’r llywodraeth gael eu rhoi mewn lle, ac mae’n ddiolchgar iawn am garedigrwydd pobol leol a chynlluniau cymorth tra mae’n hunan ynysu.

Ar bodlediad arbennig gan Bro360 sy’n edrych ar sut mae grwpiau mewn cymunedau yn Arfon a Cheredigion wedi cael eu ffurfio dros yr wythnosau diwethaf eglurodd Wynne Williams fod ymdrechion pobol yn “y cyfnod yma yn dangos gwir werth mewn dynoliaeth a chymdeithas.”

Tra ei fod yn mwynhau mynd am dro yn y cae tu ôl i’w cartref, fel nifer o bobol ei oed dydy Wynne Williams heb fynd yn bellach na gât y tŷ, ac mae’n ddibynnol ar gymdogion i fynd i siopa bwyd iddo.

Y Gegin Deithiol

Mawr yw diolch Wynne Williams a phobol Dinas Dinlle hefyd i’r Gegin Deithiol sydd wedi bod yn darparu prydau bwyd i bobol yn yr ardal.

“Mae’r Gegin Deithiol wedi bod yn hynod, yn edrych ar ôl pob un o honnom ni sydd mewn tipyn o oed erbyn hyn,” meddai Wynne Williams.

Mae’r cwmni arlwyo sy’n cael ei redeg gan Dyfed a Gwenan Williams fel arfer yn cynnig gwasanaeth arlwyo symudol ar gyfer digwyddiadau a phriodasau, ond fel nifer o fusnesau maen nhw wedi gorfod addasu oherwydd y coronafeirws.

Gwrandewch ar y podlediad llawn yma:

Cefen gwlad ar waith – podlediad Bwletin Bro

Lowri Jones

Yng nghanol yr helynt, mae newyddion da – cynlluniau cymorth yn codi’n organig mewn ymateb i Covid19