Cwmni Northwood wedi gwrthod cefnogaeth ariannol i achub y ffatri

Plaid Cymru’n “siomedig” â pherchnogion ffatri ym Mhenygroes

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Hedydd Ioan

Nid oes tro-pedol wedi bod ar y penderfyniad i gau ffatri Northwood Hygiene Products ym Mhenygores er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ariannol yn dilyn trafodaethau lleol.

Mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn siomedig gyda pherchnogion cwmni.

Mewn cyfarfod o’r Senedd ddydd Mercher (Gorffennaf 9), diolchodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, y Llywodraeth am gynnig cefnogaeth ariannol i achub y ffatri.

“Yn anffodus mae’r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol, ac maen nhw’n bwrw ymlaen i ddiswyddo’r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth,” meddai.

Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai’r ffatri yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.

Er i 2,000 o bobol arwyddo deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried, ac i gymuned Dyffryn Nantlle gynnal protest i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr, daeth cadarnhad wythnos diwethaf (Goffennaf 2) bod ymdrech yr undeb i achub y swyddi yn y ffatri yng Ngwynedd wedi bod yn aflwyddiannus.

“haeddu’r un ymdrech a’r un sylw”

Nawr, mae Siân Gwenllian am weld defnydd newydd i’r ffatri, gydag ymdrech i ddod o hyd i berchennog newydd ar gyfer y safle.

Dywedodd Siân Gwenllian bod “94 o swyddi yn Nyffryn Nantlle yn gyfwerth â miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru”, ac yn “haeddu’r un ymdrech a’r un sylw” gan Lywodraeth Cymru.

Gwyliwch ddatganiad llawn Siân Gwenllian am ffatri Northwood:

Northwood Penygroes

Yn y Senedd heddiw cefais gyfle i ddatgan siom gyda chwmni Northwood am eu penderfyniad i dynnu allan o Benygroes er gwaetha cynnig o help ariannol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn trafodaethau lleol. Cefais addewid gan y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn gwneud ei orau i chwilio am fuddsoddwyr newydd ar gyfer y safle ac i gefnogi’r gweithwyr presennol. ————————————At the Senedd today I had the opportunity to express disappointment with Northwood about their decision to withdraw from Penygroes despite an offer of financial help from the Welsh Government following local negotiations.I was promised by the First Minister that the Government will do its best to seek new investors for the site and support the workers now being affected.

Posted by Siân Gwenllian AS/MS on Wednesday, 8 July 2020