gan
Ben Gregory
Dyma’r celf cymunedol sydd wedi ymddangos dros ffordd i Co-op Penygroes.
Mae llawer ohonom yn teimlo’n annifyr yn cadw’n pellter oddi wrth bobl, ac mae’n gwbl groes i natur. Ond dywedodd pobl yr Eidal, petaent wedi gwneud un peth yn wahanol, cadw pellter oddi wrth y naill a’r llall wrth sgwrsio fyddai hynny.
Felly, cadwn yn saff, a chadwn rhyw 2 fedr i ffwrdd oddi wrth ein gilydd, fe ddown i arfer!
Help ar gael
Cofiwch fod gan yr ardal sawl prosiect cymunedol i gefnogi pobl. Os ydych chi eisiau help, neu os fedrwch chi wirfoddoli i helpu unigolion sy’n hunan-ynysu, plîs cysylltwch ag Elliw neu Greta ar: elliw@yrorsaf.cymru / greta@yrorsaf.cymru, 07529 222670 / 07410 982467